Meddygaeth

 

Cynnwys

Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Meddygaeth) yn cefnogi dilyniant posibl i radd feddygol ar gyfer ymgeiswyr addas.  Datblygwyd y Diploma i fodloni disgrifiad pwnc ar gyfer meddygaeth yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â Chyngor Ysgolion Meddygol Prydain. Mae’r Diploma yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr ymgymryd â rhaglen astudio ddwys sy’n cynnwys canolbwyntio ar amrywiaeth o feysydd pwnc sy’n hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant i radd feddygol, gan gynnwys:

  • Bioleg ddynol
  • Cemeg
  • Ffiseg a mathemateg 
  • Defnyddio a deall data rhifol
  • Ymddygiad proffesiynol 

 

Asesiad

Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu’n amrywio ac yn adlewyrchu’r hyn y bydd dysgwyr yn dod ar ei draws ar ôl iddynt symud ymlaen i addysg uwch. Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol

  • Traethodau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Asesiad/arholiad sydd â chyfyngiad amser
  • Trafodaethau academaidd
  • Adroddiadau ysgrifenedig
  • cwestiynau amlddewis/un ateb gorau

 

Ymhle rydw i'n gallu astudio?

Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Meddygaeth) yn y canolfannau canlynol:

  • Coleg Gwent

 

Llwybrau cynnydd posibl

Nod Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Meddygaeth) yw darparu llwybr i radd feddygol i ymgeiswyr addas.  Nid yw llwyddo i gwblhau’r Diploma yn gwarantu dilyniant i feddygaeth. Gall dysgwyr ystyried llwybrau cynnydd eraill mewn meysydd cysylltiedig. Cynghorir ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y Diploma hwn i gysylltu ag un o’r canolfannau a restrir uchod i gael rhagor o wybodaeth ac i drafod pa mor addas yw’r rhaglen iddynt.

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Meddygaeth) 40013509 C00/4670/2