ReachDeck
Gwrando ar y wefan hon gyda ReachDeck
P'un ai a ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar, tabled, PC neu Mac, bydd ReachDeck yn cynnig yr offer cymorth lleferydd a darllen mae eu hangen arnoch chi am ddim.
Beth yw ReachDeck?
Mae ReachDeck yn darllen cynnwys gwefan yn uchel gan ddefnyddio'r llais mwyaf naturiol a dymunol er mwyn gweddnewid eich profiad o ddarllen ar-lein. Mae'r nodweddion newydd yn cynnwys: Cyfieithydd, Symleiddiwr, Masg Sgrin ar gyfer Sgriniau Cyffwrdd a modd i chi roi gwedd bersonol ar y gosodiadau er mwyn eu gwneud yn addas ar gyfer eich anghenion a'ch dewisiadau.
Mae'r nodweddion eraill yn cynnwys:
- Amlygu Lliwiau Deuol
- Cynhyrchydd MP3
- Darllen Safleoedd Diogel
- Chwyddo'r Testun
- Masg Sgrin
- Darllen PDF
- Cyfieithydd
- Addasydd Ynganiad
- Ieithoedd Rhyngwlad
Mae dros 7,000 o wefannau'n defnyddio ReachDeck, felly ar ôl i chi ei osod ar eich dyfais, gallwch wrando ar yr holl wefannau hyn hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan ReachDeck.
Pwy mae ReachDeck yn ei helpu?
Mae ReachDeck yn helpu ymwelwyr â gwefannau mae angen cymorth i ddarllen testun ar-lein arnynt a'r rheini y mae'n well ganddynt wrando ar wybodaeth yn hytrach na'i darllen. Byddai ReachDeck yn hynod o ddefnyddiol i'r rheini sydd ag anableddau o ran print, megis dyslecsia neu fân namau ar y golwg, yn ogystal â'r rheini y mae Saesneg yn ail iaith iddynt.
Sut mae cael ReachDeck?
Cliciwch yr eicon ReachDeck sydd i'w weld ar frig unrhyw dudalen er mwyn lansio bar offer ReachDeck ac yna clicio unrhyw destun er mwyn ei glywed yn cael ei ddarllen yn uchel.
Cymorth i ddefnyddio ReachDeck
Mae llawer o wasanaethau ar gael i'ch helpu i ddefnyddio ReachDeck:
Gwefan: www.texthelp.com/en-gb/contact/
E-bost: info@texthelp.com
Ffôn: +44 (0)28 9442 8105