Y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
Cynnwys
Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol) yn cefnogi dilyniant i amrywiaeth o raglenni gradd ac yn cyflwyno meysydd pwnc perthnasol i’r dysgwyr, gan gynnwys:
- Cymdeithaseg
- Seicoleg
- Hanes
- Astudiaethau’r cyfryngau a diwylliant
- Gwleidyddiaeth
- Y Gyfraith
- Daearyddiaeth
- Llenyddiaeth
Asesiad
Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu’n amrywio ac yn adlewyrchu’r hyn y bydd dysgwyr yn dod ar ei draws ar ôl iddynt symud ymlaen i addysg uwch. Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol
- Traethodau
- Cyflwyniadau llafar
- Asesiadau/ arholiadau sydd â chyfyngiad amser
- Trafodaethau academaidd
- Adroddiadau ysgrifenedig
Ymhle rydw i'n gallu astudio?
Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol) yn y canolfannau canlynol:
- Coleg Caerdydd a’r Fro
- Coleg Gwent
- Coleg y Cymoedd
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Coleg Cambria
- Coleg Sir Gâr
- Coleg Merthyr Tudful
- Grŵp NPTC o Golegau
- Grŵp Llandrillo Menai
Llwybrau cynnydd posibl
Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr): Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg, Hanes ac Athroniaeth, Hanes, Hanes Hynafol, Economeg ac Economeg Busnes, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau, Cymdeithaseg, Astudiaethau Cymdeithasol, Astudiaethau Addysg, Saesneg a Chyfryngau Cyfoes, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieuenctid a’r Gymuned, Rheoli Adnoddau Dynol, Seicoleg Datblygiadol, Seicoleg, Gwasanaeth Cyhoeddus, Cymdeithaseg gyda Seicoleg, Cymdeithaseg gydag Addysg, Archaeoleg Treftadaeth a Hanes, Hanes ac Archaeoleg, Hanes gyda Newyddiaduraeth, Hanes gydag Astudiaethau Ffilm, Y Dyniaethau, Y Gyfraith, Athroniaeth, Economeg a Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Gwleidyddiaeth, Polisi Cymdeithasol a Gwleidyddiaeth, Crefydd a Diwinyddiaeth, Diwinyddiaeth a Chymdeithaseg, Athroniaeth a Diwinyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol Addysg Gynradd, Gwaith Cymdeithasol, Astudiaethau Seicoleg a Chwnsela, Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Cymdeithaseg gyda Throseddeg, Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Dadansoddeg Cymdeithasol gyda Throseddeg, Polisi Cymdeithasol a Chymdeithaseg.
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol) | 40014605 | C00/4857/2 |
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Y Dyniaethau) | 40014617 | C00/4857/3 |
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Cymdeithasol) | 40014629 | C00/4857/4 |