Bydd tystysgrifau Mynediad i AU ar gael i ddysgwyr rhwng 22ain a 24ain Gorffennaf 2025.
Cynghorir dysgwyr MAU i beidio â chofrestru ar blatfform e-dystysgrif Veri nes iddynt dderbyn e-bost yn eu hysbysu bod eu tystysgrif wedi’i chyhoeddi. Bydd dysgwyr yn derbyn e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd i Agored Cymru gan y coleg. Rhaid defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i greu’r cyfrif ar lwyfan e-ardystio Veri.
Mae cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru ar lwyfan Veri ar gael yma.
C. Nid wyf wedi derbyn e-bost eto
A. Bydd cyrhaeddiad dysgwyr Mynediad i AU yn cael eu cyhoeddi rhwng 22ain a 24ain o Orffennaf a byddwch yn derbyn e-bost awtomataidd i’ch hysbysu pan fydd eich cyflawniadau ar gael, nid cyn hynny. Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r cyfeiriad e-bost penodol a roddwyd i ni gan eich coleg ac y byddwn yn ei ddefnyddio i roi gwybod i chi a rhoi mynediad i chi i’r llwyfan e-ardystio, a bod gennych fynediad iddo. Gwiriwch eich ffolder sothach/sbam hefyd rhag ofn bod yr hysbysiad yn cael ei gyfeirio yno.
Os oes gennych reswm i gredu y dylech fod wedi derbyn e-bost hysbysu (er enghraifft, mae cyfoedion yn eich dosbarth wedi derbyn eu he-bost ond nid ydych chi) yna anfonwch e-bost at cefnogaeth.canolfan@agored.cymru gyda’ch enw, dyddiad geni a’r Diploma a astudiwyd a gall un o’r tîm wirio hyn i chi.
C. Nid wyf yn siŵr pa e-bost y gwnaeth y Coleg fy nghofrestru ag ef
A. Os ydych chi’n ansicr yna cysylltwch â’ch coleg yn y lle cyntaf. Neu, os byddwch chi’n cysylltu â ni o’r e-bost rydych chi’n credu eich bod chi wedi cofrestru ag ef, gallwn ni gadarnhau. Rhaid i’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddir i gofrestru ar Veri gyd-fynd yn union (gan gynnwys unrhyw amrywiadau o enw’r coleg) â’r e-bost a roddwyd i ni gan y Coleg.
C. Rwy’n ceisio cofrestru ond nid yw’n adnabod fy manylion
A. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar blatfform Veri, ac nid ar wefan Agored Cymru. Gwenwch yn siŵr mai’r cyfeiriad e-bost sy’n cael ei ddefnyddio i gofrestru yw’r un cyfeiriad e-bost y gwnaethoch dderbyn yr hysbysiad iddo.
C. Mae fy nghyfrif yn dal i fod yn ‘aros cymeradwyaeth’
A. Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost yn dweud wrthych fod eich canlyniadau ar gael, yna mae angen i chi aros am eich hysbysiad e-bost. Os ydych wedi derbyn eich hysbysiad, yna gall y statws ‘Aros cymeradwyaeth’ ddangos eich bod wedi cofrestru eich cyfrif cyn i’r canlyniadau fod ar gael - anfonwch e-bost at cefnogaeth.canolfan@agored.cymru gyda’ch enw, dyddiad geni a’r Diploma a astudiwyd.
C. Mae fy nghyd-ddisgyblion wedi derbyn eu he-bost, ond nid wyf fi
A. Y peth cyntaf yw penderfynu pa gyfeiriad e-bost rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n derbyn (h.y. e-bost personol neu e-bost coleg). Sicrhewch eich bod yn gwirio ffolderi sothach/sbam.
Os oes gennych chi reswm i gredu y dylech fod wedi derbyn e-bost hysbysu (er enghraifft, mae cyfoedion yn eich dosbarth wedi derbyn eu he-bost ond nid ydych chi) yna anfonwch e-bost at cefnogaeth.canolfan@agored.cymru gyda’ch enw, dyddiad geni a’r Diploma a astudiwyd a gall un o’r tîm wirio hyn i chi.
C. Ni allaf gael mynediad at fy e-bost coleg, neu rwyf wedi fy nghloi allan o fy e-bost coleg
A. Ni allwn helpu i gael mynediad at eich cyfrif e-bost coleg. Bydd angen i chi gysylltu â’r coleg.
C. Nid oes gennyf fynediad i’r cyfrif e-bost y mae’r Ganolfan wedi fy nghofrestru ag ef
A. Bydd angen i chi gysylltu â’r coleg a gofyn iddynt e-bostio cefnogaeth.canolfan@agored.cymru gyda’ch cyfeiriad e-bost wedi’i ddiweddaru. Ni allwn dderbyn e-bost amgen yn uniongyrchol gennych. Unwaith y byddwn wedi derbyn cadarnhad o’r e-bost newydd gan y ganolfan, bydd ein tîm yn diweddaru eich cofnod dysgwr.
C. Rwyf wedi cael fy nghloi allan o fy Nghyfrif Veri
A. Fel arfer, bydd angen i chi aros 2 awr iddo ddatgloi’n awtomatig.
Cysylltwch â cefnogaeth.canolfan@agored.cymru gyda’ch enw, dyddiad geni a’r Diploma a astudiwyd a gall un o’r tîm wirio hyn i chi.
C. Pryd y byddaf yn derbyn fy nhystysgrif bapur.
A. Bydd tystysgrifau’n cael eu postio ym mis Awst. Bydd angen i chi siarad yn uniongyrchol â’ch coleg i ddarganfod pryd maen nhw’n eu dosbarthu.
C: Nid yw fy nghanlyniadau/graddau’r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl.
A: Bydd angen i chi gysylltu â’ch coleg yn y lle cyntaf er mwyn iddyn nhw allu cysylltu â’r tîm MAU yn uniongyrchol.