Mae Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru yn gymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac sy’n cael eu derbyn mewn prifysgolion ledled y DU. Maent yn cael eu cynnig mewn colegau addysg bellach yng Nghymru a Lloegr ac fel arfer yn cael eu cwblhau mewn un flwyddyn academaidd, er bod rhai dewisiadau rhan-amser ar gael hefyd.

Datblygwyd pob Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru mewn ymgynghoriad agos â phrifysgolion a cholegau ac maent wedi cael eu cynllunio i gefnogi llwybrau cynnydd i gyrsiau addysg uwch penodol.  Mae pob Diploma yn cyflwyno meysydd pwnc sy’n gysylltiedig â’r llwybrau cynnydd penodol i’r dysgwyr ac yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu’r sgiliau astudio sydd eu hangen i lwyddo mewn addysg uwch.