Rhaid i bob canolfan sy’n cynnig Diplomau Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru fodloni gofynion a safonau rheoleiddio.
Anogir canolfannau i adolygu eu dogfennau asesu a’u templedi gan gynnwys:
- cynlluniau asesu unedau
- briffiau aseiniadau
- ffurflenni adborth
- proffiliau graddau a
- dogfennau dilysu mewnol
i sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion angenrheidiol.
Cyhoeddiadau QAA
Rhaid i holl diwtoriaid, aseswyr a swyddogion sicrhau ansawdd mewnol Mynediad i Addysg Uwch ymgyfarwyddo â gofynion QAA sy’n ymwneud ag asesu a graddio’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch, fel y manylir yn yr adnoddau y gellir cael mynediad atynt drwy’r dolenni isod:
Gweithdai Safoni
Gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal cyfres o weithdai Safoni. Bwriedir y rhain i helpu aseswyr a staff sicrwydd ansawdd i feithrin gwell dealltwriaeth o safonau Agored Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle cliciwch yma.
Tags