O 2017 ymlaen, bydd y Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn ymuno â chymwysterau eraill fel rhan o’r system bwyntiau Tariff UCAS a gafodd ei diwygio’n ddiweddar. Bydd dysgwyr sy’n cwblhau'r Diploma o 2017 ymlaen yn ennill pwyntiau UCAS am y tro cyntaf.
Er bod y Tariff ar gael ers sawl blwyddyn bellach ar gyfer amrywiol gymwysterau, o 2017 ymlaen bydd yn seiliedig ar system ddiwygiedig lle defnyddir y system raddio a’r maint sy’n gysylltiedig â chymwysterau i gyfrifo pwyntiau.
Mae’n syniad da i ganolfannau daro golwg ar y tabl Tariff UCAS ar dudalen 110 i gael y manylion llawn, ond mae’r tabl isod yn cynnig rhai enghreifftiau o broffiliau graddau Mynediad i Addysg Uwch gyda’r pwyntiau Tariff cyfatebol.
| Proffil credyd graddau: nifer y credydau ar gyfer pob gradd |
Tariff Points | Enghreifftiau o bwyntiau tariff Safon Uwch |
||
|---|---|---|---|---|
| Rhagoriaeth | Teilyngdod | Llwyddo | ||
| 45 | 0 | 0 | 144 | AAA |
| 30 | 15 | 0 | 128 | ABB |
| 15 | 30 | 0 | 112 | BBC |
| 0 | 45 | 0 | 96 | CCC |
| 15 | 15 | 15 | 96 | CCC |
| 0 | 15 | 30 | 64 | DDE (neu ddwy radd C Safon Uwch) |
| 0 | 0 | 45 | 48 | EEE (neu un Safon Uwch gradd A) |
Efallai y byddai o fudd i ganolfannau Mynediad i Addysg Uwch a dysgwyr weld y fideo yma ynglŷn â thariff UCAS a’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch.