Busnes a Gwasanaethau Ariannol
Cynnwys
Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Busnes a Gwasanaethau Ariannol) yn cefnogi dilyniant i raglenni gradd sy’n ymwneud â busnes a chyllid ac yn cyflwyno meysydd pwnc perthnasol i’r dysgwyr drwy amryw o wahanol fodiwlau, gan gynnwys:
- Rheoli
- Bancio
- Gweinyddu Busnes
- Adnoddau Dynol
- Marchnata
- Gwasanaethau i gwsmeriaid
- Yswiriant
- Cyllid busnes
- Cyfraith busnes
- Gwasanaethau ariannol
Asesiad
Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu yn amrywiol ac yn adlewyrchu’r rhai y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws mewn addysg uwch. Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol
- Traethodau
- Cyflwyniadau llafar
- Asesiadau/ arholiadau sydd â chyfyngiad amser
- Trafodaethau academaidd
- Adroddiadau ysgrifenedig
Ymhle rydw i'n gallu astudio?
Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Busnes a Gwasanaethau Ariannol) yn y canolfannau canlynol:
- Coleg Caerdydd a’r Fro
- Coleg y Cymoedd
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Grŵp NPTC o Golegau
Llwybrau cynnydd posibl
Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Busnes a Gwasanaethau Ariannol) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):
- Cyllid a Buddsoddi
- Cyfrifo a Chyllid
- Economeg a Chyllid Rhyngwladol
- Bancio a Chyllid
- Cyllid a Rheolaeth
- Economeg a Chyllid
- Rheoli Busnes
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Marchnata.
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Busnes a Gwasanaethau Ariannol) | 40014551 | C00/4856/6 |