Cynnwys

Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Cyfrifiadura Cymhwysol) yn cefnogi dilyniant i raglenni addysg uwch mewn cyfrifiadura a TGCh ac yn cyflwyno meysydd pwnc perthnasol i’r dysgwyr, gan gynnwys:

  • Dylunio cyfrifiadurol 
  • Systemau gwybodaeth
  • Datblygu meddalwedd 
  • Systemau cyfrifiadurol a saernïaeth rhwydweithiau 
  • Datblygu gwefannau
  • Mathemateg ar gyfer cyfrifiadura 

 

Asesu

Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus.  Mae’r dulliau asesu yn amrywiol ac yn adlewyrchu’r rhai y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws mewn addysg uwch. 

 

Ymhle rydw i'n gallu astudio?

Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Cyfrifiadura Cymhwysol) yn y canolfannau canlynol:

  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Grŵp NPTC o Golegau 

 

Llwybrau cynnydd posibl

Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Cyfrifiadura Cymhwysol) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):

  • Cyfrifiadureg
  • Rheoli TG ar gyfer Busnes
  • Datblygu Gemau Cyfrifiadurol 
  • Dylunio Graffig
  • Datblygu Gwefannau
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Diogelwch Cyfrifiadurol 
  • Seiberddiogelwch Gymhwysol
  • Gwaith Fforensig ar Gyfrifiaduron
  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Peirianneg Meddalwedd
  • Mathemateg a Chyfrifiadureg.

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Cyfrifiadura Cymhwysol) 40014538 C00/4856/4