Gofal Iechyd

 

Cynnwys

Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Gofal Iechyd) yn cefnogi dilyniant i nyrsio a’r proffesiynau iechyd ac yn cyflwyno meysydd pwnc academaidd perthnasol i’r dysgwyr ar draws y gwyddorau a’r gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys:

  • Anatomi a ffisioleg
  • Bioleg
  • Cymdeithaseg
  • Seicoleg
  • Astudiaethau iechyd
  • Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

 

Asesiad

Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu yn amrywiol ac yn adlewyrchu’r rhai y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws mewn addysg uwch. Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol

  • Traethodau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Asesiadau/ arholiadau sydd â chyfyngiad amser
  • Trafodaethau academaidd
  • Adroddiadau ysgrifenedig

 

Ymhle rydw i'n gallu astudio?

Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Gofal Iechyd) yn y canolfannau canlynol:

  • Coleg Penybont
  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Coleg Cambria
  • Coleg Gwent
  • Coleg Sir Gâr
  • Coleg y Cymoedd
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Grŵp NTCP
  • Coleg Sir Benfro
  • Coleg Merthyr Tudful

 

Llwybrau cynnydd posibl

Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):

  • Nyrsio Oedolion
  • Nyrsio Anableddau Dysgu 
  • Nyrsio Plant 
  • Nyrsio Iechyd Meddwl 
  • Bydwreigiaeth
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
  • Ymarfer Adran Lawdriniaethau
  • Gwyddor Parafeddygol 
  • Iechyd y Cyhoedd
  • Therapi Galwedigaethol 

 

Tystiolaeth 

“Roeddwn i bob amser yn dweud wrth fy hun, nawr yw’r amser, ac os na wnei di roi cynnig arni, fyddi di byth yn gwybod... rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud y cwrs Mynediad gan ei fod wedi fy mharatoi’n dda iawn ar gyfer bywyd academaidd.  Nawr rwy’n mwynhau fy nghwrs gradd a’m lleoliadau nyrsio ac yn edrych ymlaen at yrfa nyrsio ar ddiwedd y tair blynedd” (Lorna Hughes, dysgwr Mynediad i Addysg Uwch y flwyddyn, cyflawniad academaidd eithriadol, 2020-21).

 

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) 40013480 C00/4670/3