Mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd unigryw mewn datblygu cymwysterau a chefnogi dysgu, asesu a sicrhau ansawdd yng Nghymru.

Rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y gwaith o ddatblygu a chryfhau ein hamrywiaeth o gymwysterau ac unedau, er mwyn sicrhau ein bod yn arwain y ffordd wrth ymateb i anghenion newidiol y farchnad lafur, agendâu cenedlaethol a blaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo Agenda Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru ac yn falch o allu cynnig ein holl gymwysterau yn Gymraeg (ar alw) ac rydym wedi buddsoddi mewn datblygu cymwysterau iaith Gymraeg.

Unedau a Chymwysterau Agored Cymru

Mae ein cymwysterau'n cael eu cydnabod yn eang, eu gwerthfawrogi a'u parchu gan gyflogwyr. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sydd wedi'u hachredu gan Agored Cymru mewn sefyllfa gref i ddod o hyd i swydd neu symud ymlaen yn eu gyrfa.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig dros 6,000 o unedau a dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol mewn amrywiaeth eang o bynciau, o Sgiliau Hanfodol i Ddadansoddi Data.

Gallwch chwilio drwy ein cymwysterau ac unedau.

Gall canolfannau a dysgwyr chwilio hefyd yn ôl meysydd cwricwlwm a chymwysterau.

Mae ein holl gymwysterau wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau, o Lywodraeth Cymru i'r cynghorau sgiliau sector. Mae hyn yn golygu eu bod yn bodloni gofynion rheoliadol, yn cyd-fynd â'r fframweithiau priodol ac yn bodloni blaenoriaethau addysg cenedlaethol.

Darllenwch ein hastudiaethau achos sector diweddaraf.

 

Rhagor o Wybodaeth

Cysylltwch â'r Tîm Rheoli Canolfannau.