Gwyddorau Iechyd
Cynnwys
Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Gwyddorau Iechyd) yn cefnogi dilyniant i raglenni gradd mewn gwyddorau iechyd a gofal iechyd ac yn cyflwyno meysydd pwnc perthnasol i’r dysgwyr, gan gynnwys:
- Anatomi a ffisioleg
- Bioleg
- Cemeg
- Ffiseg
- Gofal Iechyd
Asesiad
Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu’n amrywio ac yn adlewyrchu’r hyn y bydd dysgwyr yn dod ar ei draws ar ôl iddynt symud ymlaen i addysg uwch. Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol:
- Traethodau
- Cyflwyniadau llafar
- Asesiadau/ arholiadau sydd â chyfyngiad amser
- Trafodaethau academaidd
- Adroddiadau ysgrifenedig
- Asesiadau ymarferol mewn labordy
Ymhle rydw i'n gallu astudio?
Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Gwyddorau Iechyd) yn y canolfannau canlynol:
- Coleg Caerdydd a’r Fro
- Coleg Ceredigion
- Coleg Gwent
- Coleg y Cymoedd
- Coleg Gŵyr Abertawe
Llwybrau cynnydd posibl
Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Iechyd) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):
- Ffisiotherapi
- Deieteg
- Gwyddor Fiofeddygol
- Ymarfer Adran Lawdriniaethau
- Therapi Galwedigaethol
- Podiatreg
- Proffesiynau Perthynol i Iechyd
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Iechyd y Cyhoedd.
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Iechyd) | 40014587 | C00/4857/0 |