Celf a Chynllunio
Cynnwys
Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Celf a Chynllunio) yn cefnogi dilyniant i raglenni addysg uwch mewn celf a chynllunio a meysydd cysylltiedig. Mae’r Diploma yn cyflwyno meysydd pwnc perthnasol i ddysgwyr ac yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau ymarferol angenrheidiol. Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i feysydd pwnc perthnasol drwy amrywiaeth o fodiwlau, gan gynnwys:
- Lluniadu
- Cynllunio
- Cynhyrchu amlgyfrwng
- Paentio
- Ffasiwn
- Hanes celf
- Creu portffolio
Asesiad
Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu yn amrywiol ac yn adlewyrchu’r rhai y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws mewn addysg uwch.
Ymhle rydw i'n gallu astudio?
Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Celf a Chynllunio) yn y canolfannau canlynol:
- Coleg Sir Gâr
- Coleg Menai (rhan o Grŵp Llandrillo Menai)
Llwybrau cynnydd posibl
Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Celf a Chynllunio) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):
- Ymarfer Celf
- Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig
- Ymarfer Celf (Celf Amgylcheddol)
- Ymarfer Celf (Celf Gymunedol)
- Ymarfer Celf (Iechyd a Lles)
- Cynllunio – Celfyddydau Cymhwysol
- Cynllunio Gemau Cyfrifiadurol
- Cynllunio Gwisgoedd
- Gwneud printiau
- Darlunio
- Dylunio Llwyfannau a Phropiau
- Serameg a Gemwaith
- Darlunio Digidol
- Graffeg Ddigidol
- Dyluniad Ffasiwn
- Celf a Dylunio Amlddisgyblaethol
- Ffotograffiaeth
- Cerflunio
- Tecstilau Cyfoes
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Celf a Chynllunio) | 4001454X | C00/4856/5 |