Peirianneg a Gwyddor Ffisegol

 

Cynnwys

Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Peirianneg a Gwyddor Ffisegol) yn cefnogi dilyniant i raglenni gradd mewn Peirianneg, Ffiseg a Mathemateg ac yn cyflwyno meysydd pwnc perthnasol i’r dysgwyr, gan gynnwys:

  • Ffiseg
  • Peirianneg
  • Cemeg
  • Mathemateg uwch

 

Asesiad

Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu yn amrywiol ac yn adlewyrchu’r rhai y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws mewn addysg uwch. Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol

  • Traethodau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Asesiadau/ arholiadau sydd â chyfyngiad amser
  • Trafodaethau academaidd
  • Adroddiadau ysgrifenedig
  • Asesiadau ymarferol

 

Ymhle rydw i'n gallu astudio?

Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Peirianneg a Gwyddor Ffisegol) yn y canolfannau canlynol:

  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Coleg Cambria

 

Llwybrau cynnydd posibl

Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Peirianneg a Gwyddor Ffisegol) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):

  • Peirianneg Gymhwysol 
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Peirianneg Drydanol
  • Peirianneg Fiofeddygol 
  • Gwyddoniaeth a Pheirianneg Deunyddiau
  • Peirianneg Sifil
  • Peirianneg Fodurol 
  • Peirianneg Awyrenegol/Awyrofod
  • Peirianneg Gemegol 
  • Peirianneg Drydanol ac Electronig 
  • Amgylchedd Adeiledig 
  • Mathemateg
  • Ffiseg.

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Peirianneg a Gwyddor Ffisegol) 40014563 C00/4856/8