Agored Cymru yw’r sefydliad dyfarnu delfrydol ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Rydym yn datblygu unedau a chymwysterau sy’n cydnabod yr hyn mae dysgwyr yn ei gyflawni.
Unedau a Chymwysterau Agored Cymru
Mae gennym dros 6,000 o unedau a 400 cymhwyster mewn amrywiaeth o bynciau, o Sgiliau Hanfodol i Gynaliadwyedd.
Caiff unedau a cymwhysterau Agored Cymru eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u parchu yn helaeth gan y sector addysg, darparwyr addysg a chyflogwyr.
Mae unedau a cymwhysterau Agored Cymru yn eich arfogi â’r sgiliau a’r profiadau cywir i wella eich rhagolygon cyflogadwyedd mewn gyrfa o’ch dewis neu er mwyn eich galluogi chi i gael mynediad at hyfforddiant pellach.
Ein Partneriaid
Rydym yn cydweithio’n agos ag ystod eang o bartneriaid i ddatblygu unedau a chymwysterau newydd sy’n cwrdd â gofynion y diwydiant.
Mae ein partneriaid yn cynnwys y GIG, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu a’r Ffederasiwn Busnesau Bach, dim ond i enwi ambell un.
Ein Canolfannau
Heddiw, rydym yn falch o weithio gyda dros 200 o ganolfannau ar hyd a lled Cymru yn cynnwys pob coleg addysg bellach, cynghorau, addysg gymunedol, darparwyr hyfforddiant, byrddau iechyd, ysgolion, prifysgolion, elusennau, cymdeithasau tai a busnesau.