Gofal Cymdeithasol

 

Cynnwys

Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Gofal Cymdeithasol) yn cefnogi dilyniant i raglenni addysg uwch mewn meysydd cysylltiedig, ac yn cyflwyno meysydd pwnc perthnasol i’r dysgwyr, gan gynnwys:

  • Cymdeithaseg
  • Seicoleg
  • Polisi Cymdeithasol
  • Gwaith Cymdeithasol
  • Gofal Iechyd
  • Cwnsela

 

Asesiad

Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu yn amrywiol ac yn adlewyrchu’r rhai y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws mewn addysg uwch. Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol

  • Traethodau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Asesiadau/arholiadau sydd â chyfyngiad amser
  • Trafodaethau academaidd
  • Adroddiadau ysgrifenedig
  • Asesiadau ymarferol mewn labordy

 

Ymhle rydw i'n gallu astudio?

Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Gofal Cymdeithasol) yn y canolfannau canlynol:

  • Coleg Penybont
  • Coleg Gwent
  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Coleg Gŵyr Abertawe

 

Llwybrau cynnydd posibl

Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Cymdeithasol) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):

  • Gwaith Cymdeithasol
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gwyddorau Gofal Iechyd
  • Polisi Cymdeithasol
  • Cymdeithaseg
  • Seicoleg
  • Cwnsela
  • Cwnsela Plwraliaethol 
  • Cwnsela Systemig.

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Cymdeithasol) 40014630 C00/4857/5