Ydych chi wedi clywed y newyddion?
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ychwanegu cyfres o gymwysterau bancio a chyllid, a gynigiwyd yn flaenorol gan Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain (LIBF), i bortffolio Agored Cymru. Wrth i LIBF ddod â’r cymwysterau hyn i ben, rydym bellach yn gweithio’n galed i’w paratoi ar gyfer eu cyflwyno o fis Medi 2025 ymlaen.
Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i ganolfannau gael eglurder ar sut a phryd fydd y cymwysterau hyn ar gael. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ac yn cwblhau'r gwaith angenrheidiol a byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Er mwyn eich cadw'n wybodus, rydym wedi lansio Hwb Cymwysterau Cyllid lle gallwch ddod o hyd i:
- Amserlen – Amlinelliad o’r broses drosglwyddo a’r camau nesaf.
- Cwestiynau Cyffredin – Atebion i gwestiynau allweddol i’ch tywys drwy’r broses.
- Ymgynghoriad – Cyfle i rannu’ch adborth.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth barhaus, rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy o wybodaeth gyda chi yn fuan!
Cyfleoedd i Gyrff Dyfarnu Gydnabod Profiadau Symudedd Rhyngwladol
Mae Agored Cymru yn falch o gefnogi’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ac Addysg Oedolion Cymru fel cyrff trefnu sector ar gyfer rhaglen dysgu oedolion Taith. Mae’n bleser gennym gynnig cydnabyddiaeth o gyflawniad ac ardystiad i unigolion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.
Rhaglenni Dysgu wedi’u Teilwra a’r Marc Ansawdd
Gellid defnyddio’r ddau lwybr i gefnogi, cydnabod a darparu ardystiad ar gyfer:
- Symudedd dysgwyr a staff unigol, neu grwpiau ohonynt, i Gymru ac oddi yno
- Datblygu sgiliau a chymwyseddau allweddol a phrofi diwylliannau newydd, wrth hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ledled y byd ar yr un pryd.