Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) Agored Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer addysg, gwaith a bywyd ac maent wedi'u hanelu at y rhai sy'n cael mynediad at ddysgu mewn ystod eang o amgylcheddau y tu allan i ysgol brif ffrwd.

Logo Sgiliau Hanfodol

Mae ein cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn amrywio o Lefel Mynediad 1 i Lefel 3. Mae’r cymwysterau lefel uwch yn rhan o’r holl fframweithiau prentisiaeth.

Cryfder Agored Cymru yw ein harbenigedd yn y maes hwn. Gallwn ddarparu cefnogaeth i’r rhai sy’n dymuno cyflwyno unrhyw Sgil Hanfodol. Mae ein digwyddiadau safoni poblogaidd yn caniatáu i ganolfannau rannu arferion da a syniadau addysgu.

Beth yw’r cymwysterau?

Mae cyfleoedd bellach ar gael ar gyfer goruchwylio’r gydran prawf cadarnhau o bell ar gyfer cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu a Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif. Cysylltwch ag Agored Cymru i gael mwy o fanylion.