Gall canolfannau sy’n bodoli eisoes ddilyn y camau syml yma er mwyn ychwanegu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru i'w fframwaith Agored Cymru presennol.
Os nad ydych yn ganolfan sydd gyda ni yn barod, cysylltwch â’n
tîm Datblygu Busnes
i drafod sut i ymuno â’n teulu o ganolfannau cymeradwy.
Saith cam ar gyfer ychwanegu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Agored Cymru i’ch fframwaith.
Cam 1 | Cysylltwch â’n tîm Datblygu Busnes i drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi a’n ffioedd. |
Cam 2 | Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar wefan Agored Cymru |
Cam 3 | Dewiswch y Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yr ydych eisiau eu darparu. |
Cam 4 | Dewiswch lefel y cymhwyster/cymwysterau yr ydych yn dymuno eu hychwanegu at eich fframwaith. Rydym yn cynnig o blith Lefelau Mynediad 1-3 a Lefelau 1-3, gan ddibynnu ar y pwnc. |
Cam 5 | Select ‘Er mwyn cynnig y cymhwyster hwn ac ychwanegu’r unedau i’ch fframwaith,’ dilynwch y broses awtomatig ar y wefan i Gyflwyno Cymhwyster Agored Cymru |
Cam 6 | Bydd un o Reolwyr Ansawdd Agored Cymru yn cymeradwyo eich cais i ychwanegu’r cymhwyster/cymwysterau i’ch fframwaith |
Cam 7 | Rydych bellach yn gallu cofrestru dysgwyr wrth y cymhwyster/cymwysterau yr ydych wedi’u hychwanegu i’ch fframwaith. Ni chodir ffi arnoch ond am y dysgwyr sydd wedi’u cofrestru. Nid oes cost am ychwanegu cymhwyster/cymwysterau i’ch fframwaith. |
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm Datblygu Busnes