Rydym yn cynnig nifer o gymwysterau a fydd yn datblygu sgiliau hanfodol oedolion a phobl ifanc.

Mae Tystysgrifau Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol- cymwysterau Rhifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol yn rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol y mae ymarferwyr eu hangen i asesu, cynllunio a chyflwyno sgiliau hanfodol.

Mae Dyfarniad Lefel 2 mewn Cefnogi Oedolion a Phobl Ifanc gyda’u Sgiliau Hanfodol yn datblygu'r sgiliau y maent eu hangen i ysgogi a chefnogi oedolion gyda’u sgiliau hanfodol.

Yn ogystal â'r cymwysterau hyn, rydym wedi datblygu amrywiaeth eang o unedau sy’n cefnogi’r broses Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn meysydd allweddol sy’n gysylltiedig â chyflwyno sgiliau hanfodol. Chwilio ein hunedau.

 


Cymwysterau