Mae Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol yn set o ymddygiadau cymdeithasol a sgiliau y gellir eu hennill ac yr ystyrir eu bod yn berthnasol i berfformio ym mhob rôl gyflogaeth. Mae'r sgiliau hyn yn helpu gweithwyr ryngweithio a gweithio gydag eraill mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac maent yn drosglwyddadwy, nid yn unig rhwng gwahanol rolau mewn sefydliad, ond ar draws gwahanol sectorau cyflogaeth. Nid yw sgiliau cyflogadwyedd yn cynnwys sgiliau technegol na chymwysterau gofynnol i ymgymryd â rolau a

Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd Mynediad 3 i Lefel 3 yn cynnwys pedwar prif faes pwnc:

  • Cynllunio a Threfnu
  • Creadigrwydd ac Arloesi
  • Meddwl Beirniadol a Datrys Problemau
  • Effeithiolrwydd Personol

Er mwyn ennill y cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd, rhaid i ddysgwyr ddangos eu sgiliau mewn tasg dan reolaeth a thrafodaeth strwythuredig.

Mae'r tasgau dan reolaeth yn cael eu gosod ymlaen llaw ac ar gael mewn amrywiaeth o gyd-destunau.  Mae cyfle i ganolfannau greu eu tasgau dan reolaeth eu hunain, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn diwydiant neu sector penodol. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am greu tasgau dan reolaeth ar gyfer eich sector/canolfan, cysylltwch â Judith Archer os gwelwch yn dda.

Rhoddir amser cyfyngedig i ymgeiswyr gwblhau'r tasgau a'r prawf cadarnhau, yn ôl y lefel:

Lefel

Tasg dan Reolaeth

Trafodaeth Strwythuredig

Mynediad 3

6 awr

0.5 awr

1

4 awr

0.5 awr

2

5 awr

0.5 awr

3

8 awr

0.5 awr

Mae Llawlyfr Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn rhoi manylion ynglŷn â sut bydd y tasgau a’r profion yn cael eu gweinyddu.

Enghreifftiau o'r tasgau dan reolaeth ar gael yma.

Lluniwyd y deunyddiau asesu enghreifftiol hyn ar y cyd gan y pedwar corff dyfarnu Sgiliau Hanfodol Cymru (Agored Cymru, City & Guilds, Pearson a CBAC).

I gael rhagor o fanylion ac i ychwanegu’r cymwysterau at eich fframwaith cliciwch isod.

Agored Cymru Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd C00/0746/5
Agored Cymru Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd C00/0746/6
Agored Cymru Lefel 3 Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd C00/0746/7
Agored Cymru Lefel Mynediad Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd (Mynediad 3) C00/0747/1