Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cymwysterau sy’n ateb gofynion y fframweithiau prentisiaethau perthnasol yn ogystal ag anghenion cyflogwyr ledled Cymru.
Mae cymwysterau y gellir eu defnyddio ar gyfer prentisiaethau yn cael eu cymeradwyo gan y cyngor sector sgiliau perthnasol. Maent yn cael eu cysylltu â’i safonau galwedigaethol cenedlaethol.
Mae pob cymhwyster yn ateb gofynion maint ac yn pennu nifer y credydau sy'n gysylltiedig â chymhwysedd a gwybodaeth a chyfanswm yr oriau dysgu y mae’n rhaid eu cwblhau i gyflawni’r fframwaith.
Pecyn Prentisiaethau Agored Cymru
Rydym yn darparu’r pecyn cyflawn o gymwysterau prentisiaeth, sy’n golygu ein bod ni’n bartner perffaith i ddarparwyr sy’n gobeithio symleiddio eu gwaith o weinyddu eu Prentisiaethau drwy weithio gydag un Corff Dyfarnu ymroddedig.
Cymwysterau Prentisiaeth o Safon Uchel
Rydym wedi datblygu cyfres o gymwysterau sy’n bodloni gofynion dros 30 o Fframweithiau Prentisiaeth, ar draws amryw o sectorau.
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Agored Cymru ar gael, ac maent yn cyd-fynd yn berffaith â’n cymwysterau prentisiaeth. Mae’r gyfres lawn o Gymwysterau Sgiliau Hanfodol ar gael yn ein canolfannau. Gallwn eich helpu i gynnwys y sgiliau hanfodol hyn fel rhan o'ch rhaglenni prentisiaeth;
- Cyfathrebu
- Rhifedd
- Llythrennedd Digidol
- Cyflogadwyedd
Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr
Er nad oes yn rhaid cael achrediad ar gyfer y sgiliau pwysig hyn ar hyn o bryd, mae’n rhaid cael tystiolaeth ohonynt fel rhan o raglen brentisiaeth. Er mwyn helpu canolfannau gyda hyn, mae Agored Cymru wedi datblygu uned wedi’i hachredu sy’n cwmpasu'r sgiliau hyn. Mae’r uned yn ffordd wych i ganolfannau ddarparu tystiolaeth a chydnabod dealltwriaeth dysgwyr o hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr.