Mae Agored Cymru yn rhoi sgiliau cyflogadwyedd wrth wraidd addysg yng Nghymru.

Fel sefydliad, rydyn ni'n ymfalchïo mewn creu cymwysterau o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan ddiwydiant, yn ogystal â gwobrwyo llwyddiant. Mae popeth rydyn ni’n ei greu wedi'i lunio i fod o fudd i ddysgwyr yn unigol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Rydyn ni’n credu bod datblygu’r tri maes yma yn gwella sgiliau cyflogadwyedd dysgwyr.

Beth yw Cyflogadwyedd?

Mae cyflogadwyedd yn cynnwys dwy elfen:

Sgiliau Cyflogadwyedd Craidd

Rydyn ni’n credu y dylai unigolyn fod â set o sgiliau cyflogadwyedd craidd er mwyn dod o hyd i waith a llwyddo yn y gweithle. Mae’r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy a bydd yn rhan o frand personol unigolyn bob amser. Mae'r sgiliau cyflogadwyedd craidd yn cynnwys 4 maes allweddol:

Cynllunio a Threfnu
Dadansoddi a Datrys Problemau
Meddwl yn Greadigol
Perfformiad Personol

Cymhwysedd Galwedigaethol a Gwybodaeth Dechnegol

Mae datblygu’r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen i gyflawni tasg arbenigol yn rhan o ochr dechnegol cyflogadwyedd. Bydd y sgiliau hyn yn pennu’r rôl neu'r yrfa y bydd unigolyn yn ymgymryd â hi er mwyn cael swydd neu berfformio’n effeithiol yn eu swydd.

Beth sydd gan Agored Cymru i'w gynnig?

Addysg Gysylltiedig â Gwaith

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Prentisiaethau

Sgiliau Hanfodol Cymru

Cymwysterau Archwilio Galwedigaethau

Cymwysterau Galwedigaethol - Chwiliwch drwy ein cronfa ddata am bwnc y cymhwyster sydd ei angen arnoch chi

Dysgu Galwedigaethol Gydol Oes - Chwiliwch drwy ein cronfa ddata o unedau unigol