Mae ein cymwysterau'n cael eu cydnabod yn eang, eu gwerthfawrogi a'u parchu gan gyflogwyr. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sydd wedi'u hachredu gan Agored Cymru mewn sefyllfa gref i ddod o hyd i swydd neu symud ymlaen yn eu gyrfa.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd, a gydnabyddir yn genedlaethol ar draws ystod eang o bynciau, o Sgiliau Hanfodol i Ddadansoddi Data.
Gallwch chwilio drwy ein cymwysterau yma.
Gall canolfannau a dysgwyr chwilio hefyd yn ôl meysydd cwricwlwm a chymwysterau.
Mae ein holl gymwysterau wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau, drwy ymgysylltu â grwpiau llywio arbenigol. Mae hyn yn golygu eu bod yn bodloni gofynion rheoliadol, yn cyd-fynd â'r fframweithiau priodol ac yn bodloni blaenoriaethau addysg cenedlaethol.
Darllenwch ein hastudiaethau achos sector diweddaraf.