Deunyddiau Canllaw
I gefnogi’r gwaith o gyflwyno'r unedau hyn, rydym wedi llunio dogfennau canllaw sy'n cynnwys strategaethau addysgu ac awgrymiadau ar gyfer unedau y gellir eu haddysgu gyda'i gilydd i sicrhau datblygiad y cwricwlwm ehangach ac fel y gellir gwahaniaethu rhwng grwpiau o ddysgwyr gallu cymysg.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.
Newidiadau pwysig i’r Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar gyfer Gwaith a Bywyd
Mae’r cymwysterau hyn wedi cael eu hadolygu yn awr ac maent yn cael eu hymestyn tan 31/12/2021
Yn dilyn adborth gan ein canolfannau, mae addasiadau wedi cael eu gwneud i rai o’r unedau. Fodd bynnag, mae strwythur y cymwysterau wedi aros yr un fath i raddau helaeth.
-
Gall dysgwyr sy’n gweithio tuag at gymwysterau ESfWL lefel 1 gynnwys unedau lefel 2 yn awr.
-
Mae rhai unedau wedi cael eu haddasu ryw ychydig o ran geiriad ac mae’r rhain wedi cael eu diweddaru heb effeithio ar god yr uned.
-
Os oes newidiadau sylweddol wedi bod, mae uned newydd wedi cael ei chreu. Mae'r disgwyliadau cyffredinol o ran sgiliau yr un fath ond efallai bod newidiadau bychain i’r gofynion o ran tystiolaeth. Cewch ddechrau defnyddio’r unedau newydd hyn ar unwaith ond gallwch ddal i gofrestru defnyddwyr ar y fersiynau blaenorol tan 31/03/2016.
-
Mae’r unedau TGCh wedi cael eu dileu o’r cymwysterau ar bob lefel. Os hoffech gynnwys yr unedau hyn mewn hawliad cymhwyster, mae’n rhaid i chi gofrestru dysgwyr erbyn 31/03/2016. Bydd dysgwyr yn dal i allu gweithio tuag at yr unedau hyn pan fyddant yn rhan o gymwysterau eraill neu fel rhan o unedau ‘unigol’.
Mae rhestr lawn o'r newidiadau a’r unedau newydd ar gael yma (dolen).