Mae Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif yn canolbwyntio ar sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • Deall Data Rhifol
  • Gwneud Cyfrifiadau
  • Dehongli a Chyflwyno Canlyniadau a Chanfyddiadau
Mae pob un o'r cymwysterau wedi'u mapio i Safonau Sgiliau Hanfodol Cymru. Dylid rhoi asesiad cychwynnol a diagnostig i ddysgwyr ar eu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd digidol a defnyddio rhif gan ddefnyddio Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru i sefydlu ar ba lefel y maent yn gweithio.