Yn ogystal â chynhyrchu tystysgrifau papur diogel ac o safon uchel, rydym hefyd yn cynhyrchu e-dystysgrifau ar-lein gan ddefnyddio gwasanaeth o’r enw Veri.

Rydym wedi bod yn cynhyrchu e-dystysgrifau ar Veri ers haf 2016, felly os ydych wedi derbyn tystysgrif Agored Cymru ers hynny, mae gennych e-dystysgrif hefyd. Bydd y dystysgrif ond ar gael i chi a’ch darparwr dysgu, oni bai eich bod wedi dewis fel arall.

Veri

Mae angen i chi gwblhau rhywfaint o gamau cofrestru syml cyn dechrau defnyddio Veri. Fel rhan o’r broses, bydd rhaid i chi gadarnhau eich cyfeiriad e-bost. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr na fydd neb yn gallu cael mynediad heb ei awdurdodi at eich tystysgrifau. Os yw eich darparwr dysgu wedi rhoi cyfeiriad e-bost, yna bydd gennym eich cyfeiriad e-bost yn barod (darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd). Efallai yr hoffech wirio gyda’ch darparwr dysgu os mai dyma’r cyfeiriad e-bost personol y gwnaethoch ei ddefnyddio i gofrestru, neu os gwnaethoch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost coleg, er enghraifft.

Yn ogystal â chyfeiriad e-bost, mae Veri yn gofyn i chi roi eich enw a’ch dyddiad geni. Rhaid i’r manylion hyn cyd-fynd â’r manylion sydd wedi’u rhoi i ni gan eich darparwr dysgu ynghyd â’r manylion a roddwyd gennych chi wrth gofrestru, ond efallai yr hoffech wirio a wnaethoch ddefnyddio eich enw canol, er enghraifft.

Byddwch yn gallu cofrestru cyn gynted ag y bydd eich tystysgrif gyntaf ar gael, ond nid cyn hynny, felly efallai bydd rhaid i chi aros. Bydd eich darparwr dysgu yn gallu rhoi gwybod i chi. Os ydych yn meddwl bod gennych e-dystysgrif yn aros amdanoch chi, o’r flwyddyn hon neu flynyddoedd blaenorol, cofrestrwch nawr!