Mae cyfres cymwysterau Archwilio Bydolygon Agored Cymru yn cefnogi dysgwyr i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiadau er mwyn cael dealltwriaeth well o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol. Mae hyn yn sicrhau bod pobl ifanc yn dod yn unigolion medrus a hyderus sy’n gallu byw, yn empathig ac yn llwyddiannus, mewn cymdeithas amrywiol sy’n newid yn gyflym, fel dinasyddion cyfrifol a gwybodus.

Mae’r cymhwyster yn cefnogi meysydd polisi addysgol allweddol cyfredol a newydd Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Mae hyn yn cynnwys y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol 3 i 19 oed yng Nghymru a’r canllawiau statudol, sy’n rhan o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r cymhwyster yn bodloni’r tri sgìl craidd a nodir yn y fframwaith enghreifftiol, ac mae’n darparu cyfleoedd i archwilio cysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg drwy’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau yn y Cwricwlwm i Gymru.

 

Taflen wybodaeth - Archwilio Bydolygon

 

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Archwilio Bydolygon C00/4448/0
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 2 mewn Archwilio Bydolygon C00/4448/1
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Archwilio Bydolygon C00/4479/7
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 1 mewn Archwilio Bydolygon C00/4479/8
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Archwilio Bydolygon C00/4702/8
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Archwilio Bydolygon C00/4699/4