Mae'r cymwysterau Addysg Gysylltiedig â Gwaith (AGG) yn bodloni anghenion Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru.

Mae'r cymwysterau yn bodloni gwahanol themâu Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith: cyrhaeddiad personol; chwilio am wybodaeth; deall y byd gwaith; arweiniad; a gwneud penderfyniadau a'u rhoi ar waith. 

Mae'r cymwysterau yn galluogi dysgwyr i fod yn barod am waith ac i gyfrannu'n sylweddol yn y gweithle, un ai mewn rôl wirfoddol neu rôl â thal.

Mae'r cymwysterau yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • gwireddu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol drwy gynllunio ac archwilio llwybrau gyrfa a chyflogaeth posibl
  • deall y sgiliau, y gwerthoedd a'r agweddau sydd eu hangen yn y gweithle
  • deall sut mae'r hyn maent yn ei ddysgu yn berthnasol i'w dyfodol.

Rydym yn cefnogi ac yn grymuso pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd drwy'r cymwysterau.  Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn barod ar gyfer gofynion y gweithle a bod gan gyflogwyr weithwyr sy'n bodloni eu safonau a'u disgwyliadau.


Cymwysterau

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/0593/2
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/0592/9
Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 1) C00/0594/0
Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 2) C00/0593/7
Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 3) C00/0593/5
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 2 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/1199/7
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 1 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/1199/3
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 3) C00/1199/0
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 2) C00/1198/7
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 1) C00/1198/4
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/1199/8
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/1199/9
Agored Cymru Diploma Lefel 2 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/1200/0
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/1199/4
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 1 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/1199/5
Agored Cymru Diploma Lefel 1 mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith C00/1199/6
Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 3) C00/1199/1
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 3) C00/1199/2
Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 2) C00/1198/8
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 2) C00/1198/9
Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 1) C00/1198/5
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg sy'n Gysylltiedig â Gwaith (Mynediad 1) C00/1198/6