Nod y gyfres o gymwysterau Dysgu yn yr Awyr Agored yw gwella datblygiad cymdeithasol, corfforol, creadigol, diwylliannol a phersonol pobl ifanc ac oedolion yn gyfannol drwy ddysgu arbrofol yn yr awyr agored.

Mae’r cymwysterau yn cefnogi'r dyhead am Gymru egnïol, iach a chynhwysol, lle mae dysgu yn yr awyr agored yn darparu llwyfan cyffredin ar gyfer cyfranogiad, hwyl, cyflawniad a chyflogaeth, gan gynyddu'r ddealltwriaeth o’r amgylchedd, yr iaith Gymraeg a threftadaeth ddiwylliannol a dyfodol Cymru.

Maent yn rhoi cyfleoedd i fwy o bobl ifanc yng Nghymru i gyflawni eu dichonolrwydd drwy weithgareddau a dysgu yn yr awyr agored, ac i ennill cymhwyster gwerthfawr ac achrededig sy’n hyrwyddo dilyniant.

Mae’r cymwysterau hyn yn diwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru ar draws pob maes dysgu a phrofiad, ac yn darparu cyfwerth o ¼, ½, 1 a 2 TGAU ar gyfer dilyniant i addysg uwch a/neu’n cael eu defnyddio i fesur perfformiad ysgol neu goleg.

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/3919/2
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/3919/5
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/3919/6
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/3919/7
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/4466/0
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 2 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/4466/1
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/4466/2
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/4466/3
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/4817/4
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/4817/5
Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored C00/4817/6
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored
Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored