Dyddiad gweithredu: 1af Awst 2023

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am ffioedd safonol Agored Cymru ar gyfer 2023-24. Mae’n rhestru holl ffioedd sy’n ymwneud â chymwysterau a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru, Ofqual a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a darpariaeth heb ei reoleiddio.  Mae’r ffioedd a gyhoeddir yn y dudalen hon yn weithredol rhwng 1 Awst 2023 a 31 Gorffennaf 2024 ac maent yn gywir pan gyhoeddir.  Cyfrifoldeb y ganolfan gymeradwy yw sicrhau bod y fersiwn mwyaf diweddar o’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio.  Os na chaiff cyfrifon eu talu mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i atal cofrestriadau a thynnu cymeradwyaeth y ganolfan yn ôl. 
Mae Agored Cymru yn elusen gofrestredig a’i chenhadaeth yw galluogi unigolion i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i wneud y gorau o’u potensial, cyfoethogi eu bywydau a chyfrannu at eu cymunedau ac economi gref. Ni chodir TAW ar ein ffioedd.

Ffioedd Safonol i Ganolfannau

Ffioedd Cymeradwyo i ganolfannau newydd
Wrth wneud cais - Yn cynnwys gwerthusiad o allu’r ganolfan i gyflwyno darpariaeth Agored Cymru a reoleiddir a/neu ddarpariaeth heb ei reoleiddio.  Ni ellir ad-dalu’r ffi ymgeisio os bydd canolfan yn tynnu ei chais yn ôl neu gwrthodir y cais. £270
Wedi cymeradwyaeth derfynol - 

Mae’n bosibl y codir ffioedd ychwanegol os bydd angen cefnogaeth bellach gan Agored Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth.

Mae’r ffioedd hyn yn lle’r ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cymeradwy yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithio gyda ni.

£530
Ffi Flynyddol ar gyfer Canolfannau Cymeradwy
Codir ffi flynyddol ar bob canolfan gymeradwy. Mae hyn yn caniatáu canolfannau i:
  • cynnal eu statws o gymeradwyaeth
  • darparu unedau a chymwysterau achrededig
  • mynediad at gyngor ar y cwricwlwm
  • mynediad at hyfforddiant wedi’i drefnu a hyfforddiant pwrpasol
  • derbyn sicrwydd ansawdd allanol (EQA)
  • mynediad at gymorth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid
 
£530

 

Ffioedd sy’n Gysylltiedig â Dysgwyr
Bydd credydau unigol yn cael eu hanfonebu ar adeg y dyfarniad oni nodir yn wahanol. £3.50
Bydd ffi gweithgarwch sylfaenol blynyddol sy’n gyfwerth a 165 credyd yn cael ei anfonebu a bydd yn daladwy o flaen llaw (Awst 2023). £580
Codir tâl am gymwysterau llawn yn unigol a chânt eu hanfonebu wrth gofrestru oni nodir yn wahanol. Mae manylion ffioedd ar gyfer cymwysterau unigol ar gael o fewn ein rhestr brisiau cyhoeddedig 

Ffioedd Ychwanegol - Darpariaeth wedi’i Reoleiddio (CC ag Ofqual) a Darpariaeth heb ei Reoleiddio

Ffioedd Cofrestru’n Hwyr (fesul dysgwr)
Rhaid cofrestru dysgwyr fel a ganlyn er mwyn osgoi ffioedd hwyr:
o fewn 25 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn cyrsiau 15 wythnos neu lai
o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn cyrsiau o fwy na 15 wythnos
£20
Cyflwyno ceisiadau am Ddyfarniadau yn hwyr (fesul cais)
Mae cyflwyniad yn hwyr os caiff ei dderbyn mwy na 6 mis (182 diwrnod) ar ôl dyddiad gorffen y dosbarth. £20

 

Ailgyhoeddi Tystysgrifau
Tystysgrif papur £30
Ailgyhoeddi tystysgrif electronig £10

 

Mynediad i Addysg Uwch

Ffioedd Cofrestru (fesul dysgwr)
Cadarnhau pob dysgwr o fewn 6 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs. £150
Ffioedd Cofrestru Hwyr (fesul dysgwr)
Os 42 diwrnod neu fwy ar ôl dechrau’r cwrs £200
(ffi gofrestru ynghyd â £50)
Ffioedd Ychwanegol
Newidiad hwyr i’r dewis o unedau os yw’n fwy na 84 diwrnod ar ôl dyddiad cychwyn y cwrs £100
fesul rhaglen / carfan
Newidiadau i ddyfarniad credyd a / neu raddau unedau ar ôl ardystio £50.00
am bob diwygiad ac ailgyhoeddi tystysgrif / trawsgrifiad
Apêl (ni chodir tâl os caiff ei chadarnhau) £50.00
Gweithgaredd EQA ychwanegol o bell (o ganlyniad i gosb lefel 2) £80.00
Gweithgaredd EQA ychwanegol ar y safle (o ganlyniad i gosb lefel 2) £250.00

Hyfforddiant a Digwyddiadau

Canolfannau Cymeradwy Newydd
Mae pedwar lle am ddim ar gael ar draws y cyrsiau canlynol, o fewn y 12 mis cyntaf o ddod yn ganolfan gymeradwy
  • Cyflwyniad i Asesu
  • Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
 
Yn rhad ac am ddim
Canolfannau cymeradwy
Mae’r gefnogaeth ganlynol yn rhad ac am ddim i unrhyw ganolfan gymeradwy.
  • Cyflwyniad ar gyfer Canolfannau Newydd
  • Cyflwyniad i Brosesau Gweinyddu
  • Brecwastau briffio
  • Cyfarfodydd Rhwydwaith Canolfannau
Yn rhad ac am ddim
Hyfforddiant/Digwyddiadau Ychwanegol
Codir ffioedd fel yr hysbysir am bod digwyddiad Hyfforddiant a DPP arall.
Bydd yr holl ffioedd hyfforddiant yn daladwy cyn y digwyddiad er mwyn osgoi anghydfodau ynghylch canslo neu gyfnewid.
Gweler Hyfforddiant a Digwyddiadau am fanylion.
Ffioedd Canslo
Isafswm ffi o £50 fesul cynrychiolydd am beidio â mynychu unrhyw ddigwyddiad rhad ac am ddim.

Ni fydd unrhyw ad-daliad lle codir ffi am gyrsiau ond gellir cynnig y lle i rywun arall.

Bydd mynychwyr yn derbyn ad-daliad o 50% os bydd lle yn cael ei ganslo dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.

Ni fydd unrhyw ad-daliadau pan fydd lle yn cael ei ganslo’n llawn lai na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, neu am absenoldeb.

Gall amgylchiadau godi a fydd yn arwain at yr angen i ganslo, aildrefnu neu ohirio digwyddiad, oherwydd digwyddiad anrhagweledig.
Mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i ganslo cyrsiau pan fo amgylchiadau annisgwyl yn codi.  Bydd yr holl gynrychiolwyr yn cael eu had-dalu neu’n cael lle ar ddigwyddiad wedi’i aildrefnu.

 

Ffioedd Eraill

Prosiectau a Datblygu Cynnyrch  
Cymeradwyo unedau newydd Cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cynnyrch am ddyfynbris ffurfiol yn seiliedig ar lefel y gwaith sydd ei angen
Prosiectau ac Ymgynghoriaeth Cysylltwch â ni am ddyfynbris ffurfiol yn seiliedig ar lefel y gwaith sydd ei angen
Marc Ansawdd Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol
Rhaglenni Dysgu wedi’u Teilwra Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol
Rhaglenni a Gymeradwyir gan Gyflogwyr Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol
Sicrhau Ansawdd
Cefnogaeth Sicrhau Ansawdd Allanol ychwanegol o bell (am bob hanner diwrnod) £120
Ymweliad Sicrhau Ansawdd Allanol ychwanegol (am bob hanner diwrnod) £220
(ynghyd â chostau teithio a chynhaliaeth)

 

Taliadau
Mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i godi tâl ychwanegol o 5% ar unrhyw anfonebau a dalwyd yn hwyr.