Ymrwymiad Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Nod Agored Cymru yw cynnig gwasanaeth i’w ganolfannau sy’n ymatebol, yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae wedi ymrwymo i adolygu a gwella ansawdd ei wasanaeth yn barhaus er mwyn darparu’r profiad gorau posibl i ganolfannau, a sicrhau bod pob canolfan yn cael ei thrin yn deg ac yn gyfartal.
Er mwyn darparu gwasanaeth eithriadol i chi, rydyn ni wedi ymrwymo i gyrraedd y safonau gwasanaeth isod:
Safonau Gwasanaeth Agored Cymru |
|---|
| Cytundeb Canolfan - cyhoeddi Cytundeb Canolfan o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y ffioedd cymeradwyo canolfan a chymeradwyaeth sicrhau ansawdd |
| Ffioedd - hysbysu canolfannau erbyn diwedd mis Ebrill am ei strwythur ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol |
| Adolygiad Blynyddol Canolfannau - cynnal Adolygiad Blynyddol Canolfannau bob blwyddyn |
| Cofrestriadau - prosesu cofrestriadau o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cofrestriad dysgwr sydd wedi’i gyflwyno’n gywir |
| Cymeradwyo Hawliadau: Yn aros am gymeradwyaeth Sicrhau Ansawdd - cymryd camau i gymeradwyo, gohirio neu wrthod hawliad o fewn 10 diwrnod gwaith |
| Cymeradwyo Hawliadau: Gohirio - cymryd camau i gymeradwyo, dychwelyd neu wrthod hawliad o fewn 60 diwrnod gwaith |
| Canlyniadau - cyhoeddi unrhyw ganlyniadau o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cymeradwyo hawliad |
| Cyhoeddi Adroddiadau SAA - cyhoeddi adroddiadau SAA yn ardal ddiogel canolfannau ar y wefan o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl i’r adroddiad SAA gael ei gyflwyno |
| Ystyriaethau Arbennig - ar ôl derbyn cais am Ystyriaethau Arbennig sydd wedi’i gwblhau’n gywir, cadarnhau derbyn y cais o fewn 5 diwrnod gwaith a chyfleu penderfyniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn |
| Addasiadau Rhesymol - ar ôl derbyn cais am Addasiadau Rhesymol wedi’i gwblhau’n gywir, cadarnhau ei dderbyn o fewn 5 diwrnod gwaith a chyfleu penderfyniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn |
| Apeliadau - cydnabod yr apêl o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn a llunio adroddiad ysgrifenedig gyda chanlyniad yr ymchwiliad i’r apêl o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr ymholiad |
| Cwynion - cydnabod y gŵyn o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn a chyfleu canlyniad y gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad derbyn y gŵyn. |
Am ofynion a chyfrifoldebau'r ganolfan, cliciwch yma.
Tags