Dyddiad gweithredu: 1af Awst 2021

Ffioedd gorfodol i aelodau

Ffi

Nodiadau

Cydnabod canolfan - canolfannau newydd

£800.00

Codir ffi safonol na ellir ei had-dalu ar gyfer y broses cydnabod Canolfan.
Bydd £270 yn cael ei anfonebu ar ddechrau’r broses gymeradwyo, gyda’r £530 sy’n weddill yn cael ei anfonebu ar ôl cymeradwyaeth derfynol.

Mae’n bosib y codir ffioedd ychwanegol os bydd angen cefnogaeth bellach gan Agored Cymru i sicrhau cydymffurfio.

Codir y ffi hon yn lle’r ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cydnabyddedig yn ystod y flwyddyn gyntaf maent yn cydweithio â ni.

Ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cydnabyddedig

£530.00

Mae’r ffi flynyddol i’w thalu gan bob canolfan gydnabyddedig.

Mae hyn yn golygu bod canolfannau yn gallu:

  • cadw eu statws cydnabyddedig
  • darparu unedau a chymwysterau achrededig
  • cael cyngor ar y cwricwlwm
  • cael hyfforddiant wedi’i drefnu a hyfforddiant pwrpasol
  • cael sicrwydd ansawdd allanol (EQA)
  • cael cymorth gwasanaeth cwsmeriaid

 

Ffioedd gorfodol perthnasol i ddysgwyr

Ffi

Nodiadau

Ffi am gredyd

£3.20

Bydd credydau’n cael eu hanfonebu ar adeg y dyfarniad oni nodir yn wahanol.

Cysylltwch â’ch Rheolwr Canolfan i gael manylion unrhyw becynnau hyblyg y gallwn ni eu cynnig i’ch canolfan chi.

Ffi gweithgarwch sylfaenol ar gyfer pob canolfan

£560.00

Mae hyn yn cyfateb i 175 credyd.  Yn daladwy ymlaen llaw (Awst 2021).

Cymwysterau llawn

Mae ffioedd ar gyfer cymwysterau unigol ar gael ar y tudalennau cymwysterau unigol.

Bydd cymwysterau’n cael eu hanfonebu ar adeg y dyfarniad oni nodir yn wahanol.

Cyflwyno dyfarniadau’n hwyr

£10.00
bob tro mae cwrs yn cael ei gynnal (dosbarth).

Ystyrir bod dyfarniad yn hwyr os derbynnir yr hawliad fwy na 6 mis (182 diwrnod) ar ôl dyddiad gorffen cwrs.

Ail-sefyll Prawf Cadarnhau – Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif a Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu

£4.00

Mae’r prawf ail-sefyll cyntaf yn rhad ac am ddim.

Ailgyhoeddi neu gopi o’r dystysgrif bapur

£30.00

Mae copïau dyblyg yn cael eu harchebu ar-lein gan ddysgwyr neu ganolfannau yn veri.agored.cymru.

Ailgyhoeddi tystysgrifau electronig

£10.00

 

 

Mynediad i Addysg Uwch - ffioedd penodol

Ffi

Nodiadau

Diploma Mynediad i Addysg Uwch

£140.00 i bob dysgwr

Rhaid cadarnhau pob dysgwr cyn pen 6 wythnos o ddyddiad cychwyn y cwrs.

Dysgwr sy’n cofrestru’n hwyr (42 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad mae’r cwrs yn cychwyn, neu hwyrach)

£45.00

Yn ychwanegol at y ffi gofrestru

Newidiadau hwyr i’r dewis o’r unedau (84 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad mae’r cwrs yn cychwyn, neu hwyrach)

£100.00
i bob rhaglen sy’n cael ei chynnal / carfan

 

Newidiadau i’r dyfarniad credyd a/neu raddau unedau ar ôl ardystio

£50.00 fesul newid ac ailgyhoeddi tystysgrif / trawsgrifiad

 

Apêl (ni chodir tâl petai’n cael ei chadarnhau)

£50.00

 

Gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol o bell ychwanegol (fel canlyniad i sancsiwn lefel 2)

£80.00

 

Gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol ar safle ychwanegol (fel canlyniad i sancsiwn lefel 2)

£250.00

 

 

Hyfforddiant

Ffi

Nodiadau

Cyrsiau hyfforddiant wedi’u trefnu

Canolfannau sydd newydd gael eu cydnabod

Mae 4 lle ar y cyrsiau canlynol ar gael am ddim, yn y 12 mis cyntaf ar ôl dod yn ganolfan gydnabyddedig:

  • Cyflwyniad i Asesu
  • Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol

Cyhoeddir y rhaglen ar wahân.

Cyrsiau hyfforddiant wedi’u trefnu

Canolfannau Cydnabyddedig

Mae’r gefnogaeth ganlynol ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw ganolfan gydnabyddedig:

  • Digwyddiad ymsefydlu i Ganolfannau Newydd
  • Cyflwyniad i Brosesau Gweinyddu
  • Brecwastau briffio
  • Cyfarfodydd rhwydwaith Canolfannau

Codir y ffi a hysbysebir am bob digwyddiad Hyfforddi a DPP arall - edrychwch ar y wefan i gael manylion.

Bydd yn rhaid talu pob ffi hyfforddi ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw anghydfod ynghylch canslo neu gyfnewid digwyddiadau.

Ffi canslo

Codir ffi sylfaenol o £50 am bob cynrychiolydd sydd ddim yn mynychu unrhyw ddigwyddiad am ddim.

  • Ni fydd unrhyw ad-daliad lle codir ffi o £50 y person am gwrs.
  • Bydd mynychwyr pob cwrs arall yn cael ad-daliad o 50% os byddant yn canslo dim llai na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.

Ni fydd unrhyw ad-daliad i achosion o ganslo a dderbynnir llai na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, nac am beidio â mynychu.

Ar adegau, bydd amgylchiadau’n codi sy'n golygu bod angen canslo, aildrefnu neu ohirio digwyddiad, oherwydd bod rhywbeth na ellid ei ragweld yn digwydd.

Mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i ganslo cyrsiau pan fo unrhyw amgylchiadau annisgwyl yn codi.

Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd pob cynrychiolydd yn cael ei arian yn ôl neu cedwir lle yn y digwyddiad pan fydd yn cael ei ad-drefnu.

Cyrsiau hyfforddiant ar gais

Os hoffech i ni roi hyfforddiant i chi yn eich eiddo, cysylltwch i drafod hyn: events@agored.cymru

 

 

Ffioedd eraill a godir ar ganolfannau

Ffi

Nodiadau

Cymeradwyo unedau newydd

Cysylltwch â’ch Rheolwr Canolfan penodedig i gael dyfynbris.

Pris fesul uned

Cymorth sicrhau ansawdd allanol ychwanegol o bell

£120.00
fesul hanner diwrnod

Ar gyfer darparu cefnogaeth ychwanegol er mwyn cynnal statws canolfan gydnabyddedig.

Ymweliad sicrwydd ansawdd allanol ychwanegol

£220.00
fesul hanner diwrnod ynghyd â theithio a chynhaliaeth.

Ar gyfer darparu cefnogaeth ychwanegol er mwyn cynnal statws canolfan gydnabyddedig.

Talu’n Hwyr

Mae Agored Cymru yn cadw'r hawl i godi 5% o dâl ychwanegol ar unrhyw anfonebau a dalwyd yn hwyr.

 

Gwaith prosiect / ymgynghori

Y ffi i’w chytuno ar sail lefel y gwaith gofynnol

 

Marc Ansawdd

Y ffi i’w chytuno ar sail gofynion y ganolfan

 

 

Sylwch fod Agored Cymru yn cadw’r hawl i godi tâl ar ganolfannau os bydd EQA wedi’i gynllunio yn cael ei ganslo o fewn 72 awr o’r digwyddiad.