Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am ffioedd safonol Agored Cymru ar gyfer 2025 - 2026.

Mae’n rhestru holl ffioedd sy’n ymwneud â chymwysterau a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru, Ofqual a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a darpariaeth heb ei reoleiddio. Mae’r ffioedd a gyhoeddir yn y ddogfen hon yn weithredol rhwng 1 Awst 2025 a 31 Gorffennaf 2026 ac maent yn gywir ar adeg eu cyhoeddi. Cyfrifoldeb y ganolfan gymeradwy yw sicrhau bod y fersiwn mwyaf diweddar o’r ddogfen hon yn cael ei defnyddio. Os na chaiff cyfrifon eu talu mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i atal cofrestriadau a thynnu cymeradwyaeth y ganolfan yn ôl.

Mae Agored Cymru yn elusen gofrestredig a’i chenhadaeth yw galluogi unigolion i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i wneud y gorau o’u potensial, cyfoethogi eu bywydau a chyfrannu at eu cymunedau ac economi gref. Ni chodir TAW ar ein ffioedd. 

Ffioedd Safonol i Ganolfannau

Ffioedd Cymeradwyo i ganolfannau newydd
Wrth wneud cais - Yn cynnwys gwerthusiad o allu’r ganolfan i gyflwyno darpariaeth Agored Cymru a reoleiddir a/neu ddarpariaeth heb ei reoleiddio. Ni ellir ad-dalu’r ffi ymgeisio os bydd canolfan yn tynnu ei chais yn ôl neu gwrthodir y cais. £270

Wedi cymeradwyaeth derfynol -

Mae’n bosibl y codir ffioedd ychwanegol os bydd angen cefnogaeth bellach gan Agored Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth.

Mae’r ffioedd hyn yn lle’r ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cymeradwy yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithio gyda ni. 

£530
Ffi flynyddol ar gyfer Canolfannau Cymeradwy

Codir ffi flynyddol ar bob canolfan gymeradwy. Mae hyn yn caniatáu canolfannau i: 

  • cynnal eu statws o gymeradwyaeth
  • darparu unedau a chymwysterau achrededig
  • mynediad at gyngor ar y cwricwlwm
  • mynediad at hyfforddiant wedi’i drefnu a hyfforddiant pwrpasol
  • derbyn sicrwydd ansawdd allanol (EQA)
  • mynediad at gymorth o ran gwasanaeth cwsmeriaid 
£700

 

Partneriaethau
Cymeradwyaeth ar gyfer canolfan sy’n arwain canolfannau partner. £50 fesul canolfan bartner
Ail-gymeradwyo statws canolfan bartner. £50 fesul canolfan bartner

 

Ffioedd sy’n Gysylltiedig â Dysgwyr
Bydd unedau / credydau unigol yn cael eu hanfonebu wedi iddynt gael eu cyflawni oni nodir yn wahanol. £3.75
odir tâl am gymwysterau llawn yn unigol a chânt eu hanfonebu wrth gofrestru oni nodir yn wahanol. Mae manylion ffioedd ar gyfer cymwysterau unigol ar gael o fewn ein rhestr brisiau cyhoeddedig

 

Ffioedd Ychwanegol - Darpariaeth wedi’i Reoleiddio (CC ag Ofqual) a Darpariaeth heb ei Reoleiddio

Ffioedd Cofrestru’n Hwyr (fesul dysgwr)

Rhaid cofrestru dysgwyr fel a ganlyn er mwyn osgoi ffioedd hwyr:

O fewn 25 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn cyrsiau byr hyd at a chan gynnwys 15 wythnos o hyd

O fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn cyrsiau hirach dros 15 wythnos o hyd.

£20
 Cyflwyno cais am Ddyfarniad yn hwyr
Mae cyflwyniad yn hwyr os caiff ei dderbyn mwy na 6 mis (182 diwrnod) ar ôl dyddiad gorffen y dosbarth. £20
Ffi weinyddol am gofrestriadau anghywir
Os oes angen diwygiadau fwy na mis ar ôl cofrestru. £50

 

Ailgyhoeddi Tystysgrifau
Diwygio tystysgrif £20
Ailargraffu tystysgrif £10
Diwygio tystysgrif ac ailargraffu £30

 

Mynediad i Addysg Uwch

Ffioedd Cofrestru (fesul dysgwr) 
Rhaid cadarnhau pob dysgwr o fewn 6 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs. £160
Ffioedd Cofrestru Hwyr (fesul dysgwr) 
Os yw’n 42 diwrnod neu fwy ar ôl dechrau’r cwrs.

£210 (ffi gofrestru ynghyd â £50)

Ffioedd ychwanegol 
Newidiad hwyr i’r dewis o unedau os yw’n fwy na 84 diwrnod ar ôl dyddiad cychwyn y cwrs. £100
fesul rhaglen / carfan
Newidiadau i ddyfarniad credyd a / neu raddau unedau ar ôl ardystio. £50.00
am bob diwygiad ac ailgyhoeddi tystysgrif / trawsgrifiad
Gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol ychwanegol o bell (o ganlyniad i gosb lefel 2). £80.00
Gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol ychwanegol ar y safle (o ganlyniad i gosb lefel 2). £250.00

 

Hyfforddiant a Digwyddiadau

Canolfannau cymeradwy newydd 

Mae pedwar lle am ddim ar gael ar gyfer y cyrsiau canlynol o fewn y 12 mis cyntaf o ddod yn ganolfan gymeradwy. 

  • Cyflwyniad i Asesu
  • Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol 
Yn rhad ac am ddim
Canolfannau Cymeradwy
Mae’r cymorth canlynol yn rhad ac am ddim i unrhyw ganolfan gymeradwy:
  • Cyflwyniad ar gyfer Canolfannau Newydd
  • Cyflwyniad i Brosesau Gweinyddu
  • Brecwastau briffio
  • Cyfarfodydd Rhwydwaith Canolfannau
Yn rhad ac am ddim
Hyfforddiant/Digwyddiadau Ychwanegol 

Codir ffioedd fel yr hysbysir am bob digwyddiad Hyfforddiant a DPP arall.

Bydd yr holl ffioedd hyfforddiant yn daladwy cyn y digwyddiad er mwyn osgoi anghydfodau ynghylch canslo neu gyfnewid.

Please see website for details
Ffioedd Canslo

Ni chodir tâl os yw lle yn cael ei ganslo o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad ac os anfonwyd anfoneb eisoes bydd nodyn credyd yn cael ei godi.

Ni fydd unrhyw ad-daliadau pan fydd lle yn cael ei ganslo’n llawn lai na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, neu am absenoldeb.

Gall canolfannau enwebu mynychwr arall ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad cychwyn y digwyddiad, heb orfod talu ffi ychwanegol. 

Gall amgylchiadau godi a fydd yn arwain at yr angen i ganslo, aildrefnu neu ohirio digwyddiad, oherwydd digwyddiad anrhagweledig. Mae gan Agored Cymru’r hawl i ganslo cyrsiau pan fydd amgylchiadau annisgwyl yn codi. Bydd yr holl gynrychiolwyr yn cael eu had-dalu neu’n cael lle ar ddigwyddiad wedi’i aildrefnu.

 

Ffioedd Eraill

Prosiectau a Datblygu Cynnyrch 
Datblygu a chymeradwyo cymwysterau ac unedau newydd Cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cynnyrch am ddyfynbris ffurfiol yn seiliedig ar lefel y gwaith sydd ei angen. 
Prosiectau ac Ymgynghoriaeth  Cysylltwch â ni am ddyfynbris ffurfiol yn seiliedig ar lefel y gwaith sydd ei angen.
Marc Ansawdd  Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol.
Rhaglenni Dysgu wedi’u Teilwra Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol.
Rhaglenni a Gymeradwyir Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol.
Sicrhau Ansawdd 
Cefnogaeth Sicrhau Ansawdd Allanol ychwanegol o bell (am bob hanner diwrnod). £120
Ymweliad Sicrhau Ansawdd Allanol ychwanegol (am bob hanner diwrnod). £220 (ynghyd â chostau teithio a chynhaliaeth) 
Apeliadau
Cam 1 - Adolygiad Rhagarweiniol (ni chodir tâl os caiff ei gadarnhau). £50
Cam 2 - Apêl - Pwyllgor Apêl Annibynnol (ni chodir tâl os caiff ei gadarnhau). £200

 

Llogi Ystafell
Ystafell y Bwrdd (hyd at 20 o bobl)  £200 diwrnod llawn / £100 hanner diwrnod 
Ystafell Gyfarfod (hyd at 8 o bobl) £150 diwrnod llawn / £75 hanner diwrnod 

 

Taliadau

Mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i godi tâl ychwanegol o 5% ar unrhyw anfonebau a dalwyd y tu hwnt i’r telerau credyd y cytunwyd arnynt.

Rhaid gwneud ymholiadau neu godi anghydfodau ynghylch anfonebau gyda’r adran Gyllid o fewn 14 diwrnod i ddyddiad yr anfoneb.