Mae Agored Cymru yn deall bod lle arwyddocaol i’r Gymraeg yng ngwead diwylliannol Cymru, ac mae’n bwysig darparu cyfleoedd i ddysgwyr gael mynediad i adnoddau addysgol a chymwysterau yn eu dewis iaith. Felly, rydym wedi ymrwymo i gynnig pob cymhwyster (yn ôl y galw) trwy gyfrwng y Gymraeg.
Trwy gynnig cymwysterau ac adnoddau yn y Gymraeg, ein nod yw cefnogi a grymuso dysgwyr Cymraeg eu hiaith, gan hyrwyddo cynhwysiant a gwella eu profiad dysgu.
Er mwyn sicrhau bod cymwysterau ac adnoddau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd Agored Cymru yn:
- gweithio gyda chanolfannau a Chymwysterau Cymru i ddatblygu a chynnal fersiynau Cymraeg o’n cymwysterau a’n hadnoddau
- dyrannu adnoddau a buddsoddi mewn cyfieithu asesiadau, deunyddiau ac adnoddau ategol i’r Gymraeg, gan sicrhau cywirdeb ieithyddol a sensitifrwydd diwylliannol
- hwyluso cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i addysgwyr ac aseswyr, gan eu galluogi i gyflwyno cymwysterau yn effeithiol yn Gymraeg a darparu cymorth iaith briodol i ddysgwyr
- adolygu a diweddaru’r datganiad polisi hwn yn rheolaidd i sicrhau bod ein darpariaeth cymwysterau cyfrwng Cymraeg yn cyd-fynd â datblygiadau polisi a deddfwriaethol yng Nghymru, yn ogystal ag anghenion esblygol dysgwyr sy’n siarad Cymraeg.
- gofyn am adborth ac ymgysylltu â chanolfannau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i sicrhau gwelliant parhaus a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu awgrymiadau sy’n ymwneud â’r cymwysterau yr ydym yn eu darparu yn Gymraeg
- cyfleu ein safbwynt polisi ynghylch argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg i ganolfannau
- cydymffurfio â’r Amodau Cydnabod a nodir gan Cymwysterau Cymru mewn perthynas â chymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Trwy ei ymrwymiad i’r polisi hwn, nod Agored Cymru yw cyfrannu at dirwedd addysgol fwy cynhwysol a theg.
I gael gwybodaeth fanylach am gymwysterau cyfrwng Cymraeg ac adnoddau ategol sydd ar gael gennym ar hyn o bryd, ewch i’n gwefan (https://www.agored.cymru/).