Mae 8 cam i’r broses asesu:

1. Cynllunio asesiadau: mae’r aseswr yn llunio cynllun asesu sy’n nodi sut y bydd pob uned neu gymhwyster yn cael ei asesu.

Mae’r dilysydd mewnol yn adolygu ac yn cytuno ar y cynllun asesu i sicrhau ei fod yn ateb y gofyn.

2. Dewis dulliau asesu: mae'r aseswr yn dewis y dulliau asesu sydd fwyaf priodol. Mae angen defnyddio dulliau asesu penodol ar gyfer rhai unedau a chymwysterau.  

Os nad yw’r dull asesu wedi cael ei ragnodi, gellir defnyddio nifer o ddulliau priodol i werthuso cyflawniad dysgwr yn erbyn pob maen prawf asesu.

3. Llunio tasgau asesu: mae’r aseswr yn sicrhau bod pob tasg asesu yn briodol ar gyfer y garfan o ddysgwyr dan sylw a'u bod yn cael eu mapio'n fanwl i bob maen prawf asesu perthnasol.

Nid oes angen rhagnodi tasg unigol ar gyfer pob maen prawf asesu. Gellir defnyddio tasg asesu i fodloni nifer o feini prawf asesu.

Mae'r dilysydd mewnol yn dilysu'r tasgau asesu cyn bo'r dysgwyr yn dechrau ar y cwrs.

4. Asesiad cychwynnol: mae’r aseswr yn penderfynu os yw'r unedau a / neu’r cymwysterau a ddewiswyd yn addas ar gyfer y dysgwyr.

Mae’r aseswr yn ystyried cyflawniadau academaidd blaenorol y dysgwyr a chanlyniadau eu hasesiad cyn y cwrs.

5. Asesiad ffurfiannol: mae’r aseswr yn asesu cynnydd dysgwyr gydol y cwrs. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r aseswr ddarparu adborth a chymorth parhaus i’r dysgwyr.

6. Asesiad cyfunol: dyma'r asesiad terfynol.

Mae’r aseswr yn adolygu ac yn asesu'r holl dystiolaeth ac yn pwyso a mesur a yw'r dysgwr wedi dangos cyflawniad yn erbyn yr holl feini prawf asesu a'r holl ganlyniadau dysgu. 

Mae'n rhaid i’r dilysydd mewnol roi sêl bendith i ddilysrwydd y penderfyniad asesu cyn dyfarnu credydau.

7. Gwerthuso’r cwrs: gofynnir i'r dysgwyr roi adborth ar eu cwrs.

Mae canolfannau yn defnyddio adborth gan ddysgwyr fel sail ar gyfer adolygu a datblygu pob cwrs. .

8. Dyfarnu credyd(au): os bydd y dilysydd mewnol yn cytuno â dyfarniadau’r aseswr, gall y ganolfan hawlio credydau ar gyfer yr holl ddysgwyr sydd wedi llwyddo i ennill yr uned(au)/cymhwyster.

Ar y cam hwn, mae Agored Cymru yn cynnal ymarferiad sicrhau ansawdd allanol.


Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gyfer y broses asesu ac i gael templedi asesu edrychwch ar ein Canllawiau ar gyfer Asesu.