Dyddiad gweithredu: 1af Awst 2022

Ffioedd gorfodol i aelodau

Ffi

Nodiadau

Cydnabod canolfan - canolfannau newydd

£270.00

 

£530.00

 

 

Bydd ffi na ellir ei had-dalu o £270 yn cael ei anfonebu ar ddechrau’r broses cymeradwyo canolfan.

Bydd ffi o £530 yn cael ei anfonebu ar ôl cymeradwyaeth derfynol.  Mae’n bosibl y codir ffioedd ychwanegol os bydd angen cefnogaeth bellach gan Agored Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth.

Mae’r ffioedd hyn yn lle’r ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cydnabyddedig yn ystod y flwyddyn gyntaf maent yn cydweithio â ni.

Ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cydnabyddedig

£530.00

Mae’r ffi flynyddol i’w thalu gan bob canolfan gydnabyddedig.

Mae hyn yn golygu bod canolfannau yn gallu:

  • cadw eu statws cydnabyddedig
  • darparu unedau a chymwysterau achrededig
  • cael cyngor ar y cwricwlwm
  • cael hyfforddiant wedi’i drefnu a hyfforddiant pwrpasol
  • cael sicrwydd ansawdd allanol (EQA)
  • cael cymorth gwasanaeth cwsmeriaid

 

Ffioedd gorfodol perthnasol i ddysgwyr

Ffi

Nodiadau

Ffi am gredyd

£3.20

Bydd credydau’n cael eu hanfonebu ar adeg y dyfarniad oni nodir yn wahanol.

Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes i gael manylion am unrhyw becynnau hyblyg y gallwn ni eu cynnig i’ch canolfan chi. 

Ffi gweithgarwch sylfaenol ar gyfer pob canolfan

£580.00

Yn daladwy o flaen llaw (Awst 2022).

Cymwysterau llawn

Mae ffioedd ar gyfer cymwysterau unigol ar gael o fewn ein rhestr brisiau cyhoeddedig.

Bydd cymwysterau’n cael eu hanfonebu ar adeg y dyfarniad oni nodir yn wahanol.

Cyflwyno dyfarniadau’n hwyr

£10.00 fesul cwrs sy’n cael ei gyflwyno’n hwyr

Ystyrir bod dyfarniad yn hwyr os derbynnir yr hawliad fwy na 6 mis (182 diwrnod) ar ôl dyddiad gorffen cwrs.

Ailgyhoeddi tystysgrif papur

£30.00

Mae copïau dyblyg yn cael eu harchebu ar-lein gan ddysgwyr neu ganolfannau yn veri.agored.cymru.

Ailgyhoeddi tystysgrifau electronig

£10.00

 

Ail-sefyll Prawf Cadarnhau – Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif a Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu

£4.00

Mae’r prawf ail-sefyll cyntaf yn rhad ac am ddim.

 

Mynediad i Addysg Uwch - ffioedd penodol

Ffi

Nodiadau

Diploma Mynediad i Addysg Uwch

£140.00 fesul cofrestriad

Rhaid cadarnhau pob dysgwr cyn pen 6 wythnos o ddyddiad cychwyn y cwrs.

Dysgwr sy’n cofrestru’n hwyr (42 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad mae’r cwrs yn cychwyn, neu hwyrach)

Ffi cofrestru ynghyd â £45.00

(ar gyfer Diploma MAU)

Newidiadau hwyr i’r dewis o’r unedau (84 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad mae’r cwrs yn cychwyn, neu hwyrach)

£100.00 i bob rhaglen sy’n cael ei chynnal / carfan

(ar gyfer Diploma MAU)

Newidiadau i’r dyfarniad credyd a/neu raddau unedau ar ôl ardystio

£50.00 fesul newid ac ailgyhoeddi tystysgrif / trawsgrifiad

(ar gyfer Diploma MAU)

Apêl (ni chodir tâl petai’n cael ei chadarnhau)

£50.00

(ar gyfer Diploma MAU)

Gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol o bell ychwanegol (fel canlyniad i sancsiwn lefel 2)

£80.00

(ar gyfer Diploma MAU)

Gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol ar safle ychwanegol (fel canlyniad i sancsiwn lefel 2)

£250.00

(ar gyfer Diploma MAU)

 

Hyfforddiant

Ffi

Nodiadau

Cyrsiau hyfforddiant wedi’u trefnu ar gyfer canolfannau cydnabyddedig newydd

 

Mae 4 lle ar y cyrsiau canlynol ar gael am ddim, yn y 12 mis cyntaf ar ôl dod yn ganolfan gydnabyddedig:

  • Cyflwyniad i Asesu
  • Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol

Cyhoeddir y rhaglen ar wahân.

Cyrsiau hyfforddiant wedi’u trefnu ar gyfer canolfannau cydnabyddedig

 
Mae’r gefnogaeth ganlynol ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw ganolfan gydnabyddedig:
  • Digwyddiad ymsefydlu i Ganolfannau Newydd
  • Cyflwyniad i Brosesau Gweinyddu
  • Brecwastau briffio
  • Cyfarfodydd rhwydwaith Canolfannau
Codir y ffi a hysbysebir am bob digwyddiad Hyfforddiant a DPP arall – edrychwch ar y wefan i gael manylion a ffioedd canslo.

Bydd yn rhaid talu pob ffi hyfforddiant ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw anghydfod ynghylch canslo neu gyfnewidiadau.

Cyrsiau hyfforddiant ar gais
Os hoffech i ni roi hyfforddiant i chi yn eich eiddo, cysylltwch i drafod hyn: digwyddiadau@agored.cymru
 

 

Ffioedd eraill a godir ar ganolfannau

Ffi

Nodiadau

Cymeradwyo unedau newydd

Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes penodedig i gael dyfynbris.

 

Cymorth sicrhau ansawdd allanol ychwanegol o bell

£120.00 fesul hanner diwrnod.

 

Ymweliad sicrwydd ansawdd allanol ychwanegol

£220.00 fesul hanner diwrnod ynghyd â theithio a chynhaliaeth.

Gellir codi tâl os caiff ymweliad sicrhau ansawdd allanol arfaethedig ei ganslo o fewn 72 awr i’r ymweliad.

Talu’n Hwyr

Mae Agored Cymru yn cadw'r hawl i godi 5% o dâl ychwanegol ar unrhyw anfonebau a dalwyd yn hwyr.

 

Gwaith prosiect / Ymgynghori

Y ffi i’w chytuno ar sail lefel a chymhlethdod y gwaith gofynnol.

 

Marc Ansawdd

Y ffi i’w chytuno ar sail gofynion y ganolfan.

 
Rhaglenni Dysgu Cymeradwy Y ffi i’w chytuno ar sail gofynion y ganolfan. Ar gyfer cymeradwyo rhaglenni hyfforddi cyfredol a/neu ddefnyddio unedau QALL.