Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am ffioedd safonol Agored Cymru ar gyfer 2024-25.
Mae’n rhestru holl ffioedd sy’n ymwneud â chymwysterau a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru, Ofqual a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a darpariaeth heb ei reoleiddio. Mae’r ffioedd a gyhoeddir yn y dudalen hon yn weithredol rhwng 1 Awst 2024 a 31 Gorffennaf 2025 ac maent yn gywir pan gyhoeddir. Cyfrifoldeb y ganolfan gymeradwy yw sicrhau bod y fersiwn mwyaf diweddar o’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio. Os na chaiff cyfrifon eu talu mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i atal cofrestriadau a thynnu cymeradwyaeth y ganolfan yn ôl.
Mae Agored Cymru yn elusen gofrestredig a’i chenhadaeth yw galluogi unigolion i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i wneud y gorau o’u potensial, cyfoethogi eu bywydau a chyfrannu at eu cymunedau ac economi gref. Ni chodir TAW ar ein ffioedd.
Ffioedd Safonol i Ganolfannau
Ffioedd Cymeradwyo i ganolfannau newydd | |
Wrth wneud cais - Yn cynnwys gwerthusiad o allu’r ganolfan i gyflwyno darpariaeth Agored Cymru a reoleiddir a/neu ddarpariaeth heb ei reoleiddio. Ni ellir ad-dalu’r ffi ymgeisio os bydd canolfan yn tynnu ei chais yn ôl neu gwrthodir y cais. | £270 |
Wedi cymeradwyaeth derfynol -
Mae’n bosibl y codir ffioedd ychwanegol os bydd angen cefnogaeth bellach gan Agored Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth. Mae’r ffioedd hyn yn lle’r ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cymeradwy yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithio gyda ni. |
£530 |
Ffi Flynyddol ar gyfer Canolfannau Cymeradwy | |
Codir ffi flynyddol ar bob canolfan gymeradwy. Mae hyn yn caniatáu canolfannau i:
|
£530 |
Ffioedd sy’n Gysylltiedig â Dysgwyr | |
Bydd credydau unigol yn cael eu hanfonebu ar adeg y dyfarniad oni nodir yn wahanol. | £3.50 |
Bydd ffi gweithgarwch sylfaenol blynyddol sy’n gyfwerth a 165 credyd yn cael ei anfonebu a bydd yn daladwy o flaen llaw (Tachwedd 2024). | £580 |
Codir tâl am gymwysterau llawn yn unigol a chânt eu hanfonebu wrth gofrestru oni nodir yn wahanol. | Mae manylion ffioedd ar gyfer cymwysterau unigol ar gael o fewn ein rhestr brisiau cyhoeddedig |
Ffioedd Ychwanegol - Darpariaeth wedi’i Reoleiddio (CC ag Ofqual) a Darpariaeth heb ei Reoleiddio
Ffioedd Cofrestru’n Hwyr (fesul dysgwr) | |
Rhaid cofrestru dysgwyr fel a ganlyn er mwyn osgoi ffioedd hwyr: o fewn 25 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn cyrsiau 15 wythnos neu lai o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn cyrsiau o fwy na 15 wythnos |
£20 |
Cyflwyno ceisiadau am Ddyfarniadau yn hwyr (fesul cais) | |
Mae cyflwyniad yn hwyr os caiff ei dderbyn mwy na 6 mis (182 diwrnod) ar ôl dyddiad gorffen y dosbarth. | £20 |
Ailgyhoeddi Tystysgrifau | |
Tystysgrif papur | £30 |
Ailgyhoeddi tystysgrif electronig | £10 |
Mynediad i Addysg Uwch
Ffioedd Cofrestru (fesul dysgwr) | |
Cadarnhau pob dysgwr o fewn 6 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs. | £150 |
Ffioedd Cofrestru Hwyr (fesul dysgwr) | |
Os 42 diwrnod neu fwy ar ôl dechrau’r cwrs | £200 (ffi gofrestru ynghyd â £50) |
Ffioedd Ychwanegol | |
Newidiad hwyr i’r dewis o unedau os yw’n fwy na 84 diwrnod ar ôl dyddiad cychwyn y cwrs | £100 fesul rhaglen / carfan |
Newidiadau i ddyfarniad credyd a / neu raddau unedau ar ôl ardystio | £50.00 am bob diwygiad ac ailgyhoeddi tystysgrif / trawsgrifiad |
Apêl (ni chodir tâl os caiff ei chadarnhau) | £50.00 |
Gweithgaredd EQA ychwanegol o bell (o ganlyniad i gosb lefel 2) | £80.00 |
Gweithgaredd EQA ychwanegol ar y safle (o ganlyniad i gosb lefel 2) | £250.00 |
Hyfforddiant a Digwyddiadau
Canolfannau Cymeradwy Newydd | |
Mae pedwar lle am ddim ar gael ar draws y cyrsiau canlynol, o fewn y 12 mis cyntaf o ddod yn ganolfan gymeradwy
|
Yn rhad ac am ddim |
Canolfannau cymeradwy | |
Mae’r gefnogaeth ganlynol yn rhad ac am ddim i unrhyw ganolfan gymeradwy.
|
Yn rhad ac am ddim |
Hyfforddiant/Digwyddiadau Ychwanegol | |
Codir ffioedd fel yr hysbysir am bod digwyddiad Hyfforddiant a DPP arall. Bydd yr holl ffioedd hyfforddiant yn daladwy cyn y digwyddiad er mwyn osgoi anghydfodau ynghylch canslo neu gyfnewid. |
Gweler Hyfforddiant a Digwyddiadau am fanylion. |
Ffioedd Canslo | |
Isafswm ffi o £50 fesul cynrychiolydd am beidio â mynychu unrhyw ddigwyddiad rhad ac am ddim.
Ni fydd unrhyw ad-daliad lle codir ffi am gyrsiau ond gellir cynnig y lle i rywun arall. Bydd mynychwyr yn derbyn ad-daliad o 50% os bydd lle yn cael ei ganslo dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Ni fydd unrhyw ad-daliadau pan fydd lle yn cael ei ganslo’n llawn lai na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, neu am absenoldeb. |
Gall amgylchiadau godi a fydd yn arwain at yr angen i ganslo, aildrefnu neu ohirio digwyddiad, oherwydd digwyddiad anrhagweledig. Mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i ganslo cyrsiau pan fo amgylchiadau annisgwyl yn codi. Bydd yr holl gynrychiolwyr yn cael eu had-dalu neu’n cael lle ar ddigwyddiad wedi’i aildrefnu. |
Ffioedd Eraill
Prosiectau a Datblygu Cynnyrch | |
Cymeradwyo unedau newydd | Cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cynnyrch am ddyfynbris ffurfiol yn seiliedig ar lefel y gwaith sydd ei angen |
Prosiectau ac Ymgynghoriaeth | Cysylltwch â ni am ddyfynbris ffurfiol yn seiliedig ar lefel y gwaith sydd ei angen |
Marc Ansawdd | Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol |
Rhaglenni Dysgu wedi’u Teilwra | Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol |
Rhaglenni a Gymeradwyir gan Gyflogwyr | Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes am ddyfynbris ffurfiol |
Sicrhau Ansawdd | |
Cefnogaeth Sicrhau Ansawdd Allanol ychwanegol o bell (am bob hanner diwrnod) | £120 |
Ymweliad Sicrhau Ansawdd Allanol ychwanegol (am bob hanner diwrnod) | £220 (ynghyd â chostau teithio a chynhaliaeth) |
Taliadau |
Mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i godi tâl ychwanegol o 5% ar unrhyw anfonebau a dalwyd yn hwyr. |