Yma yn Agored Cymru, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein canolfannau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’w dysgwyr. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, mae’n rhaid i ni gynnal rhai sicrhau ansawdd cyn y gall eich sefydliad ddod yn Ganolfan sydd wedi’i Chymeradwyo gan Agored Cymru. Cyn dechrau ar ein proses o Gydnabod Canolfan, ystyriwch y wybodaeth isod.
Sicrhau Ansawdd
- Mae pob canolfan yn gyfrifol am eu sicrwydd ansawdd a bod yn atebol am hynny.
- Rhaid i ganolfannau allu rheoli sicrwydd ansawdd; mae hyn yn cynnwys asesu dysgwyr a sicrhau ansawdd mewnol.
- Rhaid i ganolfannau gael unigolyn (unigolion) sy’n gymwys i gwblhau gwiriadau sicrhau ansawdd mewnol (neu sy’n fodlon cael ei hyfforddi).
- Rhaid i ganolfannau gael polisïau/ strategaethau ar waith ar gyfer y meysydd canlynol:
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – gall hyn hefyd gynnwys cysylltiadau â pholisïau eraill fel gwahaniaethu ar sail anabledd ac ati
- Diogelu – gall hyn gynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn Plant ac ati
- Asesu
- Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Asesu Teg
- Apeliadau
- Cwynion
- Camarfer a Chamweinyddu – gallai hyn gysylltu â pholisïau eraill cysylltiedig fel llên-ladrad
- Diogelu Data – neu ddatganiad
- Yr Iaith Gymraeg.
- Gwrthdaro rhwng buddiannau
Os nad oes gennych chi’r polisïau hyn ar hyn o bryd, bydd gofyn i chi baratoi rhai ar gyfer y meysydd hyn, i alluogi eich cais am gymeradwyaeth canolfan i symud ymlaen.
Cyllid
- Bydd rhaid i chi sicrhau bod digon o gyllideb ar gael i ennill a chynnal statws fel Canolfan Agored Cymru a’r holl gostau achredu cysylltiol.
- Os ydych chi’n ceisio cael cyllid er mwyn ennill cymeradwyaeth canolfan, mae’n rhaid i chi allu darparu tystiolaeth o’r cyllid i Agored Cymru.
Bydd y broses cymeradwyo canolfan yn adolygu eich systemau rheoli, staff ac adnoddau (corfforol ac ariannol) i bennu’ch gallu i ddarparu, asesu a sicrhau ansawdd ar draws uned(au)/cymhwyster(cymwysterau) Agored Cymru. Bydd ein tîm yn gofyn am dystiolaeth i gefnogi hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i drafod gwneud cais am gymeradwyaeth canolfan cysylltwch â datblygubusnes@agored.cymru