Fel canolfan cymeradwy Agored Cymru, helpwch ni i’ch helpu chi drwy lynu wrth ofynion a chyfrifoldebau Agored Cymru.
Rydyn ni’n disgwyl i’n canolfannau gadw at y gofynion isod:
- Mynediad i Addysg Uwch: Cofrestru 60 credyd dysgwyr ar y Diploma Mynediad i Addysg Uwch cyn pen 42 diwrnod ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs.
- Cymwysterau Cymru/Ofqual/QALL: Cofrestru pob dysgwr cyn pen 25 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs (cyrsiau byr hyd at a chan gynnwys 15 wythnos o hyd).
- Cymwysterau Cymru/Ofqual/QALL: Cofrestru pob dysgwr cyn pen 40 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs (cyrsiau hirach sy’n para mwy na 15 wythnos).
- Cyflwyno ffurflenni hawlio cyn pen 6 mis ar ôl dyddiad gorffen y cwrs.
- Mynychu digwyddiad safoni o leiaf unwaith bob dwy flynedd.
- Cydnabod Cynllun Gweithredu’r Ganolfan (CAP) cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn adroddiad Sicrwydd Ansawdd Allanol;
- Mynd i’r afael â’r holl gamau gweithredu gofynnol sydd yn y CAP o fewn yr amserlenni a gyhoeddwyd.
- Talu pob anfoneb o fewn yr amserlen benodedig.
Mae canolfannau cymeradwy yn gyfrifol am:
- Cadw at holl gyfrifoldebau’r ganolfan, fel y cytunwyd yn y Cytundeb Canolfan a lofnodwyd gennych.
- Cadw at bob polisi a phroses a gyhoeddwyd ar dudalennau gwe Agored Cymru.
- Sicrhau bod proses gadarn a thryloyw ar waith ar gyfer cadarnhau manylion yr holl ddysgwyr cyn iddynt gofrestru.
- Sicrhau bod tystysgrifau Agored Cymru yn cael eu rhoi i’ch dysgwyr yn brydlon ac yn ddiogel.
- Diweddaru a diwygio manylion cyswllt staff ar gyfer eich canolfan drwy’r adran ‘Rheoli Cysylltiadau’ ar eich cyfrif gwefan Agored Cymru.
- Rhoi dull rheoli risg mewnol effeithiol ar waith sy’n bodloni gofynion Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau (CASS) Agored Cymru.
- Datgan i Agored Cymru, unrhyw wrthdaro/wrthdrawiadau rhwng buddiannau sy’n codi o staff sy’n gweithredu fel aseswr, swyddog sicrhau ansawdd mewnol neu unrhyw aelod arall o staff sydd â buddiant personol yng nghanlyniad asesiad dysgwyr drwy gyflwyno ffurflen Cl1: Ffurflen Datganiad Gwrthdaro Buddiannau Canolfan.
- Hysbysu Agored Cymru am newidiadau i staff canolfannau sy’n cyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd cymwysterau Agored Cymru drwy gyflwyno ffurflen SA1: Ffurflen Diwygio Staff.
- Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw addasiad rhesymol a wneir i asesiad cyn yr asesiad trwy gyflwyno ffurflen RA1: Ffurflen i wneud cais am Addasiad(au) Rhesymol ar gyfer dulliau asesu rhagnodedig Agored Cymru neu ffurflen RA2: Ffurflen i Gofnodi Addasiad(au) Rhesymol ar gyfer dulliau asesu a luniwyd gan ganolfan.
- Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw ystyriaeth(au) arbennig a roddwyd i ddysgwr a baratowyd ar gyfer asesiad ond a brofodd salwch neu anaf dros dro, neu ddigwyddiad arall y tu allan i reolaeth y dysgwr, a gafodd, neu sy’n debygol o gael, effaith ar allu’r dysgwr i sefyll asesiad neu ddangos lefel ei gyrhaeddiad mewn asesiad trwy gyflwyno ffurflen SC1: Ffurflen i wneud cais am Ystyriaeth Arbennig wedi’i chwblhau.
- Ceisio cymeradwyaeth gan Agored Cymru cyn ymgysylltu â thrydydd parti i gyflwyno unrhyw ran o gymhwyster neu uned Agored Cymru, gan gynnwys ei asesiad.
- Sicrhau bod yr holl wybodaeth y gall Agored Cymru ofyn amdani fod ar gael at ddiben cynnal gweithgareddau monitro.