Mae Llythrennedd Digidol Hanfodol yn golygu gwybodaeth, sgiliau, agweddau ac ymddygiad o ran defnyddio dyfeisiadau digidol.
Mae Llythrennedd Digidol Hanfodol yn cynnwys pump o elfennau o Fynediad 1 - Lefel 3
- Cyfrifoldeb Digidol - gwybod sut i gadw'n ddiogel a gweithredu'n briodol ar-lein
- Cynhyrchiant Digidol - gwybod pa dechnolegau, arfau a dulliau i'w defnyddio a sut i drefnu, rhannu ac amddiffyn gwybodaeth ddigidol
- Llythrennedd ym maes Gwybodaeth Ddigidol - gallu canfod, gwerthuso'n feirniadol a defnyddio gwybodaeth ddigidol yn ddiogel
- Cydweithredu Digidol - rhannu gwybodaeth a chydweithredu ag eraill i gwblhau tasgau a datrys problemau
- Creadigrwydd digidol - gallu defnyddio cyfryngau digidol i gwblhau tasgau, cynhyrchu cynnwys a datblygu cyfleoedd
Er mwyn ennill y cymhwyster Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol, rhaid i ddysgwyr ddangos eu sgiliau mewn tasg dan reolaeth sy'n cynnwys trafodaeth strwythuredig.
Mae'r tasgau dan reolaeth yn cael eu gosod ymlaen llaw ac ar gael mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae cyfle i ganolfannau greu eu tasgau dan reolaeth eu hunain, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn diwydiant neu sector penodol. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am greu tasgau dan reolaeth ar gyfer eich sector/canolfan, cysylltwch â Judith Archer os gwelwch yn dda.
Rhoddir amser cyfyngedig i ymgeiswyr gwblhau'r tasgau a'r prawf cadarnhau, yn ôl y lefel:
Lefel |
Tasg dan Reolaeth |
---|---|
Mynediad 1-3 |
6 awr |
1 |
4 awr |
2 |
5 awr |
3 |
8 awr |
Mae Llawlyfr Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn rhoi manylion ynglŷn â sut bydd y tasgau a’r profion yn cael eu gweinyddu.
Enghreifftiau o'r tasgau dan reolaeth ar gael yma.
Lluniwyd y deunyddiau asesu enghreifftiol hyn ar y cyd gan y pedwar corff dyfarnu Sgiliau Hanfodol (Agored Cymru, City & Guilds, Pearson a CBAC).
I gael rhagor o fanylion ac i ychwanegu’r cymwysterau at eich fframwaith cliciwch isod.