Rhaid i bob asesiad fodloni’r holl egwyddorion asesu, ni waeth pa ddull asesu a ddefnyddir i ddangos cyrhaeddiad dysgwyr.
Rhaid i bob asesiad gynhyrchu canlyniadau sydd yn:
- ddilys: mae tystiolaeth yr asesiad yn bodloni'r holl feini prawf asesu a'r holl ganlyniadau dysgu
- gwreiddiol: gwaith y dysgwr ei hun yw'r gwaith i gyd
- dibynadwy: mae tystiolaeth yr asesiad yn gyson ac yn cynhyrchu canlyniadau a fyddai'n cael eu hailadrodd pe bai'r asesiad yn cael ei gynnal eto
- cyfredol: mae tystiolaeth yr asesiad yn dystiolaeth gyfoes
- digonol: mae digon o waith ar gael i gyfiawnhau'r gwerth credyd ac i ganiatáu barn gyson a dibynadwy am gyflawniad y dysgwr
- cymaradwy: mae modd dwyn cymhariaeth o ran safon rhwng asesiadau o fewn uned/cymhwyster a rhwng dysgwyr o'r un lefel
- dichonadwy: mae pob asesiad yn rhoi gofynion rhesymol ar bob dysgwr
- yn deg ac yn lleihau rhagfarn i’r eithaf: mae asesiadau yn deg i bob dysgwr, ni waeth beth yw ei nodweddion (er enghraifft, oed, rhywedd, ayyb)
Tags