Mae 8 cam i’r broses asesu:

Cam 1. Cynllunio asesiadau

Mae’r aseswr yn llunio cynllun asesu sy’n nodi sut y bydd pob uned neu gymhwyster yn cael ei asesu.

Mae’r dilysydd mewnol yn adolygu ac yn cytuno ar y cynllun asesu i sicrhau ei fod yn ateb y gofyn.

Cam 2. Dewis dulliau asesu

Mae'r aseswr yn dewis y dulliau asesu sydd fwyaf priodol. Mae angen defnyddio dulliau asesu penodol ar gyfer rhai unedau a chymwysterau.  

Os nad yw’r dull asesu wedi cael ei ragnodi, gellir defnyddio nifer o ddulliau priodol i werthuso cyflawniad dysgwr yn erbyn pob maen prawf asesu.

Cam 3. Llunio tasgau asesu

Mae’r aseswr yn sicrhau bod pob tasg asesu yn briodol ar gyfer y garfan o ddysgwyr dan sylw a'u bod yn cael eu mapio'n fanwl i bob maen prawf asesu perthnasol.

Nid oes angen rhagnodi tasg unigol ar gyfer pob maen prawf asesu. Gellir defnyddio tasg asesu i fodloni nifer o feini prawf asesu.

Mae'r dilysydd mewnol yn dilysu'r tasgau asesu cyn bo'r dysgwyr yn dechrau ar y cwrs.

Cam 4. Asesiad cychwynnol

Mae’r aseswr yn penderfynu os yw'r unedau a / neu’r cymwysterau a ddewiswyd yn addas ar gyfer y dysgwyr.

Mae’r aseswr yn ystyried cyflawniadau academaidd blaenorol y dysgwyr a chanlyniadau eu hasesiad cyn y cwrs.

Cam 5. Asesiad ffurfiannol

Mae’r aseswr yn asesu cynnydd dysgwyr gydol y cwrs. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r aseswr ddarparu adborth a chymorth parhaus i’r dysgwyr.

Cam 6. Asesiad cyfunol

Dyma'r asesiad terfynol.

Mae’r aseswr yn adolygu ac yn asesu'r holl dystiolaeth ac yn pwyso a mesur a yw'r dysgwr wedi dangos cyflawniad yn erbyn yr holl feini prawf asesu a'r holl ganlyniadau dysgu. 

Mae'n rhaid i’r dilysydd mewnol roi sêl bendith i ddilysrwydd y penderfyniad asesu cyn dyfarnu credydau.

Cam 7. Gwerthuso’r cwrs

Gofynnir i'r dysgwyr roi adborth ar eu cwrs.

Mae canolfannau yn defnyddio adborth gan ddysgwyr fel sail ar gyfer adolygu a datblygu pob cwrs. .

Cam 8. Dyfarnu credyd(au)

Os bydd y dilysydd mewnol yn cytuno â dyfarniadau’r aseswr, gall y ganolfan hawlio credydau ar gyfer yr holl ddysgwyr sydd wedi llwyddo i ennill yr uned(au)/cymhwyster.

Ar y cam hwn, mae Agored Cymru yn cynnal ymarferiad sicrhau ansawdd allanol.


I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gyfer y broses asesu ac i gael templedi asesu edrychwch ar ein Canllawiau ar gyfer Asesu.