Ymlaen ag Ysgolion yw’r gwasanaeth cwricwlwm addysg i ysgolion ledled Cymru.

Mae ein gwasanaeth i ysgolion yn cynnwys cymwysterau, dysgu a gydnabyddir, gweithredu polisi a strategaeth, a hyfforddiant a datblygu ar gyfer disgyblion a staff.

Fel elusen gofrestredig a menter gymdeithasol, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent yng Nghymru, i Gymru. Mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd unigryw mewn datblygu cyfleoedd dysgu yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gydag amrywiol bartneriaid ledled Cymru er mwyn datblygu ein pecynnau dysgu a’n cymwysterau sy’n adlewyrchu addysg yng Nghymru a’r anghenion cwricwlwm sy’n datblygu.

Rydym yn cynnig dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol mewn amrywiaeth eang o bynciau.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo Agenda Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, ac rydym yn falch o gynnig ein holl gymwysterau yn Gymraeg. Mae Agored Cymru hefyd wedi buddsoddi yn natblygiad cymwysterau Cymraeg eu cyfrwng.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda dros 200 o ganolfannau ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, i lunio a darparu cymwysterau a dyfarnu credydau i ddysgwyr. Mae gan ein staff arbenigol wybodaeth drylwyr am flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru ac agendâu cenedlaethol ac maent yn arwain ar ddatblygu rhagoriaeth ym myd addysg yng Nghymru.

Caiff cymwysterau Agored Cymru eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u parchu yn eang gan gyflogwyr a sefydliadau addysg a hyfforddiant. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr achrededig Agored Cymru yn cael eu cefnogi ar gyfer eu cyfleoedd addysgol yn y dyfodol ac mae modd iddyn nhw ymestyn eu hymarfer proffesiynol drwy gefnogaeth addysgol wedi’i theilwra.