Rydym yn sylweddoli bod gennych chi eisoes fynediad at gyngor, arweiniad a chymorth yn eich ysgol fel rhan o’r gwasanaethau rhanbarthol ac awdurdod lleol presennol. Mae Ymlaen ag Ysgolion yn ategu’r gwasanaethau hyn.

Dyma rai enghreifftiau o’r cymorth y gallwn ei gynnig i’ch ysgol. Fel canolfan gydnabyddedig Agored Cymru, gallwn:

  • Weithio gydag athrawon a staff cymorth i adolygu cynlluniau gwers ac adnoddau (electronig neu ar y safle) a rhoi adborth er mwyn cefnogi arferion arweiniol yn y sector os yn berthnasol
  • Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar yr arferion presennol o ran ABCh, Addysg Gysylltiedig â Gwaith a Chyfranogiad Pobl Ifanc
  • Cefnogi arfer da o ran llais y disgybl wrth weithredu polisïau a chynnal ymgynghoriadau ystyrlon, er mwyn cryfhau’r dull seiliedig ar hawliau mewn ysgolion
  • Adolygu tasgau asesu a darparu cyngor ac arweiniad wrth baratoi ar gyfer sicrhau ansawdd yn fewnol, yn cynnwys darparu prosesau enghreifftiol