Prif ddiben y broses adolygu cymwysterau hon yw sicrhau bod Agored Cymru yn gallu asesu'r angen am gymwysterau o ansawdd uchel sy'n berthnasol ac yn parhau i ymateb i'r agenda addysg yng Nghymru, ynghyd ag adolygu a chynnal cymeradwyaeth ar gyfer y cymwysterau hynny.
Y Broses
Mae tri cham i'r broses adolygu cymwysterau:
Cam ymgynghori: gall canolfannau anfon eu hadborth a’u sylwadau atom ni drwy e-bostio cymwysterau@agored.cymru
Cam Gwerthuso: rydyn ni'n casglu ac yn dadansoddi'r adborth ac yn gwneud penderfyniad terfynol
Cyhoeddi'r Canlyniadau: Rydyn ni'n cyhoeddi'r canlyniadau ar ein gwefan ac yn rhoi gwybod i ganolfannau am y penderfyniadau terfynol.
Mae'r adolygiad yn broses gydweithredol sy'n cynnwys Agored Cymru, cynrychiolwyr o ganolfannau sydd wedi cynnig y cymwysterau, a chyflogwyr a sefydliadau sy'n ymwneud â datblygu’r cymhwyster. Gall yr adolygiad argymell un o’r deilliannau a ganlyn:
- Ymestyn / Newid
- Terfynu
- Tynnu'n ôl (heb unrhyw beth yn ei le)
- Tynnu'n ôl (gyda rhywbeth yn ei le)