Credwn y dylai pawb gael y cyfle i ennill cymhwyster galwedigaethol. Deallwn fod hyn yn gallu bod yn fwy heriol i rai dysgwyr, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol nad ydynt o bosib yn gallu cael cymwysterau galwedigaethol prif ffrwd.

Mae ein cyfres o gymwysterau Archwilio Galwedigaethau wedi’i dylunio i roi’r cyfle i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol roi cynnig ar opsiynau gyrfa gwahanol yn ogystal â bod yn bwynt mynediad i’r rheini sydd am gael swyddi neu fynd ymlaen i gael cymwysterau galwedigaethol ar lefel uwch.

Strwythur y Cymhwyster

Mae’r cymwysterau hyn ar Lefel Mynediad 1 a Lefel Mynediad 2

Mae pum math o gymhwyster sef Dyfarniad, Dyfarniad Estynedig, Tystysgrif, Tystysgrif Estynedig a Diploma

Mae gan bob cymhwyster unedau ar lefelau Mynediad 1, 2 a 3 sy’n darparu her i’r dysgwyr sy’n briodol i’w hanghenion.