Deall a Galluogi Rhyngweithio a Chyfathrebu gydag Unigolion sydd â Dementia

ID Uned:
CCY335
Cod Uned:
PT23CY125
Lefel:
Tri
Credydau:
4
Sector:
1.3
LDCS:
PT2
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
30
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/10/2029
Cyfyngiad oedran isaf:
16
Access to HE logo Cym

Pwrpas a Nod

Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i’r dysgwr ddatblygu a rhoi rhinweddau perthynas effeithiol ar waith gydag unigolion sydd â dementia. Mae’n seiliedig ar ddefnyddio sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu cadarnhaol.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall y ffactorau sy'n gallu effeithio ar allu unigolion â dementia i ryngweithio a chyfathrebu
1.1Esbonio sut gall gwahanol fathau o ddementia effeithio ar y ffordd y mae unigolyn yn cyfathrebu
1.2Esbonio sut y gallai fod angen ystyried ffactorau iechyd meddwl a chorfforol wrth gyfathrebu ag unigolyn gyda dementia
1.3Disgrifio sut mae cefnogi gwahanol alluoedd ac anghenion cyfathrebu unigolyn gyda dementia sydd â nam ar y synhwyrau
1.4Disgrifio'r effaith y gall ymddygiad gofalwyr ac eraill ei chael ar unigolyn sydd â dementia
2. Gallu cyfathrebu ag unigolyn sydd â dementia gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau geiriol a di-eiriau
2.1Dangos sut mae defnyddio technegau cyfathrebu gwahanol gydag unigolyn sydd â dementia
2.2Dangos sut mae arsylwi ar ymddygiad yn offeryn effeithiol wrth ddehongli anghenion unigolyn sydd â dementia
2.3Dadansoddi ffyrdd o ymateb i ymddygiad unigolyn sydd â dementia, gan ystyried galluoedd ac anghenion yr unigolyn, gofalwyr a phobl eraill
3. Gallu cyfathrebu’n gadarnhaol ag unigolyn sydd â dementia drwy werthfawrogi ei hunaniaeth
3.1Dangos sut y gellir defnyddio dulliau, galluoedd ac anghenion cyfathrebu unigolyn â dementia i ddatblygu ei gynllun gofal
3.2Dangos sut y gellir defnyddio’r dull(iau) mae’r unigolyn yn ei ffafrio wrth ryngweithio i atgyfnerthu ei hunaniaeth a’i natur unigryw
4. Gallu defnyddio dulliau rhyngweithio cadarnhaol gydag unigolion â dementia
4.1Esbonio’r gwahaniaeth rhwng dull atgoffa o realaeth wrth ryngweithio a dull dilysu
4.2Dangos rhyngweithio cadarnhaol gydag unigolyn sydd â dementia
4.3Dangos sut mae defnyddio agweddau ar yr amgylchedd ffisegol i alluogi rhyngweithio cadarnhaol gydag unigolion sydd â dementia
4.4Dangos sut mae defnyddio agweddau ar yr amgylchedd cymdeithasol i alluogi rhyngweithio cadarnhaol gydag unigolion sydd â dementia
4.5Dangos sut y gellir defnyddio technegau atgofion i hwyluso rhyngweithio cadarnhaol gyda’r unigolyn sydd â dementia

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Gofalwyr, e.e.

  • partner
  • teulu
  • ffrindiau
  • cymdogion.
Eraill, e.e.
  • gweithiwr gofal
  • cydweithiwr
  • rheolwr
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Meddyg Teulu
  • Therapydd Iaith a Lleferydd
  • Ffisiotherapydd
  • Fferyllydd
  • Nyrs
  • Seicolegydd
  • Nyrsys Admiral
  • Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol
  • Nyrs Seiciatrig Gymunedol
  • Ymgynghorwyr Gofal Dementia
  • eiriolwr
  • grwpiau cymorth.
Gall amgylchedd cymdeithasol ddarparu cyfleoedd i ryngweithio sy'n creu profiad ysgogol a mwynhad, e.e.
  • cyfleoedd i gwrdd â theulu a ffrindiau
  • gallu siarad am fywyd cynnar, gyrfa yn y gorffennol, atgofion da
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfarwydd h.y. mynd i’r eglwys, clybiau, chwarae golff, mynd ar hoff deithiau cerdded
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau, e.e. hel atgofion, gwrando ar hoff gerddoriaeth,
  • parhau ag arferion cymdeithasol, e.e. mynd i’r siop trin gwallt, mynd allan am goffi, ac ati.
Atgoffa o Realaeth
Nod y dull hwn yw gosod yr unigolyn yn y presennol, i’w atgoffa o’r diwrnod, lle, amser a sefyllfa maen nhw ynddi.

Dull dilysu
Defnyddio empathi a’i dderbyn mewn ffordd nad yw’n feirniadol i ddangos i’r unigolyn bod y teimladau mae’n eu dangos yn ddilys. Canolbwyntio ar y teimladau yn hytrach na chynnwys yr hyn sy'n cael ei ddweud.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

Mapping to National Occupational Standards (NOS) and the Knowledge and Skills Framework (KSF) for the NHS.
SCDHSC0031 Promote effective communication, SCDHSC0024 Support the safeguarding of individuals, SCDHSC0035 Promote the safeguarding of individuals, SCDHSC0045 Lead practice that promotes the safeguarding of individuals

Gofynion Aseswyr:

Nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch gofynion penodol ar gyfer aseswyr i’r uned hon. Dylai canolfannau ddewis aseswyr sydd wedi cael eu hyfforddi mewn asesu, ac sydd â chymhwysedd sy’n benodol i’r pwnc i asesu ar y lefel hon.