Cyfrifo: Rhifau Cyfan

ID Uned:
BZS151
Cod Uned:
HD41CY014
Lefel:
Un
Credydau:
3
Sector:
14.1
LDCS:
HD4
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
27
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/08/2029
Access to HE logo Cym

Pwrpas a Nod

Cyflwyno’r dysgwr i gyfrifiadau sy’n cynnwys rhifau cyfan

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Gallu adio, tynnu, lluosi a rhannu rhifau cyfan.
1.1Adio a thynnu rhifau cyfan gan gynnwys rhifau mawr, gan ddefnyddio dulliau ysgrifennu effeithlon.
1.2Adio a thynnu rhifau cyfan gan gynnwys rhifau mawr, gan ddefnyddio cyfrifiannell.
1.3Lluosi rhifau cyfan gan ddefnyddio dulliau ysgrifennu effeithlon.
1.4Lluosi rhifau cyfan gan ddefnyddio cyfrifiannell.
1.5Rhannu rhifau cyfan gan ddefnyddio dulliau ysgrifennu effeithlon a dehongli’r gweddill.
1.6Rhannu rhifau cyfan gan ddefnyddio cyfrifiannell a dehongli’r gweddill.
1.7Dewis a defnyddio’r gweithrediad cywir yn ei gyd-destun gan ddefnyddio cyfrifiannell.
2. Gallu gwirio atebion yn briodol.
2.1Gwirio atebion gan ddefnyddio dull gwahanol.
2.2Amcangyfrif atebion drwy dalgrynnu rhifau i wneud yn siŵr bod yr atebion yn rhesymol.
3. Deall effaith lluosi a rhannu rhifau cyfan â 10 neu 100.
3.1Lluosi rhifau cyfan â 10, 100.
3.2Lluosi rhifau cyfan â 10, 100 mewn cyd-destun.
3.3Rhannu rhifau cyfan â 10, 100.
3.4Rhannu rhifau cyfan â 10, 100 mewn cyd-destun.
4. Gwybod am berthnasoedd rhifiadol.
4.1Cofio ffeithiau lluosi hyd at 10 x 10.
4.2Nodi lluosrifau 10, 50, 100, 1000.
4.3Cofio rhifau sgwâr hyd at 10 x 10.
4.4Gwneud cysylltiadau rhwng ffeithiau lluosi a rhannu.
4.5Defnyddio strategaethau i ddelio â rhifau mwy

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

1.1 Gan gynnwys rhifau mawr hyd at 7 digid.
1.2 Gan gynnwys rhifau mawr hyd at 7 digid.
1.3 Gan gynnwys rhifau hyd at a chan gynnwys 4 digid yn ôl rhifau hyd at a chan gynnwys dau ddigid.
1.4 Gan gynnwys rhifau hyd at a chan gynnwys 4 digid yn ôl rhifau hyd at a chan gynnwys dau ddigid.
1.5 Gan gynnwys rhifau hyd at a chan gynnwys 4 digid yn ôl rhifau hyd at a chan gynnwys dau ddigid.
1.6 Gan gynnwys rhifau hyd at a chan gynnwys 7 digid yn ôl rhifau hyd at a chan gynnwys dau ddigid.
2.1 E.e. dull gwrthdro.
2.2 Drwy dalgrynnu rhifau i’r 10, 100 neu 1000 agosaf.
4.5 E.e. 6 x 7 = 2 x 3 x 7 = 2 x 21 =42; 8 x 9 = 8 x 10 - 8 =72.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Gofynion Aseswyr:

Nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch gofynion penodol ar gyfer aseswyr i’r uned hon. Dylai canolfannau ddewis aseswyr sydd wedi cael eu hyfforddi mewn asesu, ac sydd â chymhwysedd sy’n benodol i’r pwnc i asesu ar y lefel hon.