Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol

ID Uned:
BSD959
Cod Uned:
NH22CY001
Lefel:
Dau
Credydau:
3
Sector:
1.2
LDCS:
NH2
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
24
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/03/2029
Access to HE logo Cym

Pwrpas a Nod

Bydd yr uned hon yn cael ei chyflwyno a’i hasesu gan Ddeietegydd Cofrestredig yn GIG Cymru. Mae’n rhan o raglen SGILIAU MAETH AM OESTM Cymru gyfan a ddatblygwyd gan Ddeietegwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod negeseuon maeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu lledaenu i eraill.

Mae’n galluogi dysgwyr i ddeall rôl deiet cytbwys wrth gynnal iechyd unigolyn a’r gymuned; sut i wella lefelau maeth drwy newid deiet; a sut y gall fod angen deietau gwahanol ar wahanol boblogaethau i gynnal iechyd.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall cyfansoddion deiet cytbwys.
1.1Nodi’r grwpiau bwyd yn y model Canllaw Bwyta'n Dda a’r maetholion sydd ym mhob grŵp.
1.2Dewis bwydydd ar gyfer pob grŵp bwyd.
1.3Disgrifio ffyrdd o wella cydbwysedd deiet unigolyn.
2. Deall manteision maeth da i iechyd a lles.
2.1Nodi’r mathau o fraster sydd yn y deiet a rhoi enghreifftiau o’r bwydydd sy’n cynnwys y rhain.
2.2Disgrifio manteision lleihau:
  • braster
  • siwgr
  • halen.
2.3Disgrifio manteision cynyddu ffibr.
2.4Disgrifio ffyrdd o gynyddu faint o ffrwythau a llysiau mae rhywun yn eu bwyta.
3. Deall sut mae deiet cytbwys a gweithgarwch corfforol yn helpu i reoli pwysau, iechyd a lles.
3.1Cymharu egwyddorion y Canllaw Bwyta’n Dda â deiet colli pwysau.
3.2Nodi manteision gweithgarwch corfforol rheolaidd i iechyd a lles yn gyffredinol.
3.3Rhoi enghreifftiau o ffyrdd o wella prydau yn unol â'r model Canllaw Bwyta’n Dda.
4. Deall ffactorau sy'n effeithio ar y math o fwyd a ddewisir.
4.1Nodi’r rhwystrau i ddewis bwydydd iach.
4.2Rhoi enghreifftiau o strategaethau ar gyfer goresgyn rhwystrau i ddewis bwydydd iach.
4.3Rhoi enghreifftiau o ffyrdd o leihau’r gost o fwyta’n iach.
5. Gallu pennu nodau er mwyn helpu i newid arferion bwyta a ffordd o fyw.
5.1Nodi rhesymau dros newid deiet.
5.2Asesu'r bwyd sy’n cael ei fwyta mewn diwrnod a nodi newidiadau i wella’r cytbwysedd o ran maeth.
5.3Pennu nodau CAMPUS ar gyfer newid deiet a lefelau gweithgarwch.
6. Deall labeli bwyd.
6.1Cymharu gwybodaeth am y maeth ar gynhyrchion bwyd.
6.2Dosbarthu bwydydd yn ôl faint o siwgr, braster a halen sydd ynddynt.
6.3Nodi enghreifftiau o honiadau camarweiniol ynghylch maeth ar labeli bwyd.
7. Deall deiet cytbwys ar gyfer ystod o grwpiau poblogaeth.
7.1Disgrifio beth yw anghenion maeth grwpiau gwahanol yn y boblogaeth.
7.2Disgrifio sut mae addasu'r Canllaw Bwyta’n Dda ar gyfer grwpiau gwahanol yn y boblogaeth.
7.3Disgrifio sut mae hyrwyddo negeseuon am faeth ymysg grwpiau yn y boblogaeth.
8. Gallu addasu ryseitiau a phrydau er mwyn cydymffurfio â chanllawiau bwyta'n iach.
8.1Disgrifio sut mae addasu ryseitiau er mwyn eu gwneud yn iachach.
8.2Cynllunio bwydlen sy’n cydymffurfio â chanllawiau bwyta'n iach ar gyfer grŵp yn y boblogaeth.
8.3Disgrifio sut mae creu prydau cytbwys o nifer o wahanol fwydydd.
9. Deall ffynonellau gwybodaeth am faeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
9.1Rhoi enghreifftiau o'r canlynol:
  • ffeithiau
  • camsyniadau
  • ffynonellau gwybodaeth
  • am faeth.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Mae’r hyfforddiant hwn yn rhan o NUTRITION SKILLS FOR LIFETM.
Mae NUTRITION SKILLS FOR LIFETM yn rhaglen hyfforddiant sgiliau maeth gyda sicrwydd ansawdd a mentrau a grëwyd ac a gydlynwyd gan ddietegwyr sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru. Nod y rhaglen yw cefnogi amrywiaeth eang o weithwyr cymunedol, gan gynnwys y rheini o gyrff iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector i hyrwyddo bwyta’n iach ac ymgorffori sgiliau bwyd a maeth yn eu gwaith. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Williams Hwylusydd Hyfforddiant Maeth Cenedlaethol ar 02920668089 neu anfonwch e-bost at Lisa.Williams16@wales.nhs.uk

1.1 Pum grŵp bwyd o leiaf.
1.2 Pum math o fwyd o leiaf.
1.3 Tair ffordd o leiaf.
2.1 Tri math o fraster o leiaf.
2.2 O leiaf ddwy fantais o fwyta llai o bob un.
2.2 O leiaf ddwy fantais o fwyta mwy o ffibr.
2.4 Tair ffordd o leiaf o gynyddu faint o ffrwythau a llysiau mae rhywun yn eu bwyta.
3.2 Tair mantais o leiaf.
3.3 Dwy enghraifft o leiaf.
4.1 Pum rhwystr o leiaf.
4.2 Dwy enghraifft o leiaf.
4.3 Tair enghraifft o leiaf.
5.1 Tri rheswm o leiaf
5.2 Tri newid o leiaf.
5.3 Tri nod CAMPUS o leiaf.
6.2 Tri gwahanol fath o fwyd o leiaf.
6.3 Dwy enghraifft o leiaf.
Gallai Grwpiau Poblogaeth gynnwys:

  • Babanod
  • Plant cyn oed ysgol
  • Plant oed ysgol
  • Menywod cyn ac yn ystod beichiogrwydd
  • Oedolion hŷn
7.1 O leiaf ddau grŵp yn y boblogaeth.
7.2 O leiaf ddau grŵp yn y boblogaeth
8.2 Cynllunio bwydlen am wythnos.
9.1 Dwy enghraifft o leiaf.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

ADCDF:

Gellir integreiddio’r themâu allweddol canlynol i’r uned hon


Iechyd

Cyfoeth a Thlodi

Dewisiadau a Phenderfyniadau

Mapiadau Eraill:

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC): HSC3112, HT2, HT3.

KSF: HWB1 lefel 1.

Gofynion Aseswyr:

Rhaid i’r uned hon gael ei chyflwyno a’i hasesu gan Ddeietegydd Cofrestredig sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru.
Mae adnoddau dysgu ac addysgu safonol ar gael gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru.